Mae Catherine Watchorn wedi bod yn byw gyda’i gofalwr Cysylltu Bywydau Liz a’i theulu yng Ngogledd Cymru ers dros 14 mlynedd. Bu i Sam Williams, Rheolwr Polisïau a Chyfathrebu Anabledd Dysgu Cymru, gwrdd â Catherine i sgwrsio am sut y llwyddodd Cysylltu Bywydau i’w helpu i wella ei hannibyniaeth a’i swydd fel llysgennad ar gyfer Cysylltu Bywydau.
Pan symudodd Catherine i mewn am y tro cyntaf, roedd hi’n nerfus iawn ond eisteddodd Liz i lawr gyda hi a gofyn pa fath o bethau roedd hi eisiau help gyda nhw.
Gyda’i gilydd fe wnaethant lunio cynllun i helpu Catherine i gyrraedd ei nodau gan gynnwys cael swydd, dysgu sut i goginio a glanhau drosti hi ei hun, a gofalu am ei harian ei hun. Roedd Catherine yn teimlo nad oedd ei lleoliad preswyl blaenorol wedi ei helpu gydag unrhyw un o’r pethau hyn ac roedd wedi achosi iddi golli hyder, felly roedd hi’n awyddus iawn i ddechrau gweithio tuag at ei nodau o’r diwedd.
Cyn symud i mewn gyda’i theulu Cysylltu Bywydau, roedd Catherine wedi byw mewn lleoliad mam a babi gyda’i mab. Dywedwyd wrthi mai nod y lleoliad oedd ei chefnogi hi i ddysgu sgiliau newydd a gwella ei gallu i ofalu am ei mab bach yn ddiogel. Fodd bynnag, mae Catherine yn dweud na chafodd gynnig cefnogaeth yn ystod ei lleoliad, dim ond beirniadaeth a negyddiaeth. Aeth yn isel ei hysbryd a chollodd lawer o bwysau. Mae Catherine yn credu bod y diffyg cefnogaeth wedi cyfrannu at ei mab yn cael ei dynnu oddi arni yn barhaol gan y gwasanaethau cymdeithasol.
“Roedd gen i benodai yn gofalu am fy arian felly doeddwn i ddim yn gwybod faint o arian oedd gen i,” meddai Catherine. “Roeddwn i’n teimlo eu bod nhw wedi cymryd fy mywyd drosodd. Dywedwyd wrthyf fi nad oeddwn i angen eiriolwr felly nid oedd gen i unrhyw un i’m cefnogi ar yr adeg anodd iawn hon yn fy mywyd. Ni chefais fy nhrin fel rhan o’r teulu. Roeddwn i’n teimlo eu bod nhw’n gweld yr anabledd dysgu ac nid y person oedd angen ychydig o help yn unig.”
Symud ymlaen
Ar ôl symud i mewn gyda’i gofalwr Cysylltu Bywydau, dechreuodd Catherine wirfoddoli’n lleol fel rhan o’i chynllun tymor hir i ddod o hyd i waith cyflogedig. Yn ddiweddarach, cafodd ei dewis i fod yn aelod o’r Grŵp Cynghori ar Anabledd Dysgu oedd yn darparu gwybodaeth a chyngor i Lywodraeth Cymru ar y materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Dysgodd Catherine sut i goginio prydau iach iddi hi ei hun yn ogystal â sut i ddefnyddio’r peiriant golchi. Mae hi bellach yn siopa ac ymolchi drosti hi ei hun yn ogystal â rheoli ei harian a gofalu am ei chi anwes Sky.
Mae Catherine wrth ei bodd yn garddio a threulio amser ym myd natur, gan gynnwys mynd â’i chi am dro a mynd ar wyliau gyda Liz a’i theulu i borthdy yng nghefn gwlad. Mae hi hefyd yn mwynhau treulio amser gyda’i ffrindiau ac yn teithio’n annibynnol i’w cyfarfod yn y dafarn neu’r sinema.
Pan ofynnwyd iddi sut mae’n teimlo am ei bywyd ers symud i mewn gyda’i gofalwr Cysylltu Bywydau, atebodd Catherine, “Mae’n hyfryd, yn wych! Gallaf wneud pethau drosof fi fy hun”.
Mae hyder Catherine wedi tyfu ac mae’n teimlo’n hapus a chadarnhaol am y dyfodol. “Mae Cysylltu Bywydau yn berffaith i mi, dydw i ddim eisiau iddo newid. Mae Liz yn wych. Gallaf wneud y pethau rwy’n eu mwynhau a chael rhyddid i fyw’r bywyd rwy’n ei ddewis, heb neb yn dweud wrthyf fi bod yn rhaid i mi fynd i’r gwely ar amser penodol bob nos, bwyta ar yr un pryd bob dydd. Dyma yw bywyd teuluol ac mae’n berffaith.”
Gweithio fel Llysgennad Cysylltu Bywydau
Ym mis Mai 2022, penodwyd Catherine yn Llysgennad Cysylltu Bywydau i Gymru. Roedd hon yn rôl yr oedd yn awyddus iawn i ymgeisio amdani gan ei bod am godi ymwybyddiaeth o Cysylltu Bywydau a helpu eraill mewn amgylchiadau tebyg iddi hi. Roedd Catherine eisoes wedi siarad â Llywodraeth Cymru am Cysylltu Bywydau yn y gorffennol ac wedi cyd-gyflwyno gweithdy yn un o gynadleddau blynyddol Anabledd Dysgu Cymru i rannu ei stori, felly roedd hi’n ymgeisydd perffaith ar gyfer rôl Llysgennad.
Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Catherine: “Hoffwn ddweud wrth fwy o bobl am Cysylltu Bywydau er mwyn i eraill gael yr hyn sydd gen i yma gyda Liz a’i theulu. Nid yw llawer o bobl rwy’n siarad â nhw erioed wedi clywed am Cysylltu Bywydau neu ddim yn ei ddeall.”
Mae Catherine eisoes wedi cael rhywfaint o hyfforddiant i’w helpu yn ei rôl newydd ac wedi mynychu cyfarfod staff ledled y DU i siarad am gynlluniau’r sefydliad ar gyfer hyrwyddo ac ehangu’r rhaglen Cysylltu Bywydau. Bydd hefyd yn cael mwy o hyfforddiant dros y misoedd nesaf, gan gynnwys siarad cyhoeddus. Mae Catherine yn edrych ymlaen yn fawr at ddysgu sgiliau newydd a gweithio gyda’r tîm i godi ymwybyddiaeth o Cysylltu Bywydau yng Nghymru a sut y gall gefnogi pobl ag anabledd dysgu.
Beth yw gofal Cysylltu Bywydau?
Yn Cysylltu Bywydau, mae oedolyn neu berson ifanc sydd angen cymorth hirdymor yn cael ei baru â gofalwr Cysylltu Bywydau cymeradwy gan eu cynllun Cysylltu Bywydau lleol sy’n cael ei redeg neu ei gomisiynu gan wasanaethau gofal cymdeithasol oedolion yr awdurdod lleol. Gyda’i gilydd, mae’r person sydd angen cymorth a’r gofalwr Cysylltu Bywydau yn rhannu bywyd teuluol a chymunedol y gofalwr.
Mae pobl sy’n defnyddio Cysylltu Bywydau naill ai’n symud i mewn gyda’u gofalwr Cysylltu Bywydau o ddewis i fyw fel rhan o’u cartref neu maen nhw’n ymweld am gymorth dydd a/neu seibiannau dros nos. Mae pobl yn cael gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn lle sy’n teimlo fel cartref. Mae cynlluniau Cysylltu Bywydau ar gael ledled Cymru. Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Cysylltu Bywydau a Mwy yma (Saesneg yn unig).
Cefnogi rhieni ag anabledd dysgu
Mae un o’r prosiectau mae Cysylltu Bywydau wedi bod yn ei gyflawni yn Lloegr a’r Alban yn cynnig cymorth i rieni ag anabledd dysgu. Gall y rhiant sydd angen cymorth ymweld â chartref eu gofalwr Cysylltu Bywydau am seibiannau byr neu gymorth dydd, neu symud i mewn gyda nhw, gan rannu bywyd teuluol a chymunedol.
Yn wahanol i faethu rhieni a phlant, nid oes gan ofalwr Cysylltu Bywydau gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Yn hytrach, eu rôl yw galluogi’r rhiant i ofalu am eu plentyn. Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn cefnogi rhieni i ddysgu gwybodaeth newydd a sgiliau rhianta; a gallant gefnogi’r rhiant i nodi ac adeiladu ar eu cryfderau.
Mae gan y rhiant ag anabledd dysgu gyfle i brofi modelu rôl cadarnhaol o fywyd teuluol a derbyn cefnogaeth ymarferol ar bob cam o ddatblygiad eu plentyn i weithio tuag at fywyd annibynnol.
Y nod yw galluogi rhieni i fagu hyder a meithrin eu cysylltiadau cymunedol eu hunain, er mwyn sicrhau y byddant yn gallu cefnogi eu plentyn yn y tymor hwy.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cael ei ymestyn i Gymru yn y dyfodol fel y gall mwy o rieni ag anabledd dysgu elwa o’r gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn y gall y model hwn ei gynnig.
Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect rhianta ar wefan Cysylltu Bywydau a Mwy yma (Saesneg yn unig).