Innovate Trust yn dewis Ffrindiau Gigiau Cymru fel elusen Nadolig eleni

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch bod Innovate Trust wedi dewis ein prosiect Ffrindiau Gigiau Cymru fel eu helusen Nadolig ar gyfer 2021. Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol drwy baru unigolion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth gydag unigolion heb anabledd dysgu fel y gallant fynychu digwyddiadau … Continued

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn ymuno gyda dros 150 o grwpiau yn y DU i bwyso ar y Prif Weinidog i weithredu i sicrhau ein Deddf Hawliau Dynol

I nodi Diwrnod Hawliau Dynol y Byd mae Anabledd Dysgu Cymru, ynghyd â dros 150 o grwpiau ar draws y DU, wedi arwyddo llythyr agored (PDF) i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn ei herio i sicrhau ein Deddf Hawliau Dynol a diogelu Hawliau Dynol ac atebolrwydd democrataidd. Darllenwch fersiwn hawdd ei ddeall o’r llythyr yma … Continued

Fe ddylai ysgol weithio i bob dysgwr

Mae Anabledd Dysgu Cymru a’r  prosiect Engage to Change wedi ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y newidiadau i’r Cwricwlwm i Gymru. Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gynnal grŵp ffccws gyda chyfranogwyr oedd  n rhieni a gofalwyr oedd yn gweithio mewn ysgolion. Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn rhoi adborth ar sut orau i … Continued

Cefnogi gofal cymdeithasol i adfer yn dilyn y pandemig – fframwaith newydd gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith adfer i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol wrth iddo adfer o effaith Covid-19. Yn ei chyflwyniad i’r fframwaith, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y bydd “effaith hirdymor y pandemig hwn yn ddigyffelyb a bydd yn cymryd blynyddoedd y byd i adfer”. Bwriad y fframwaith yw … Continued

Cloi allan: adroddiad damniol yn datgelu sut y tynnodd pandemig sylw at anghydraddoldebau i bobl anabl yng Nghymru

Mae adroddiad damniol gan y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl wedi canfod bod anghydraddoldebau presennol wedi arwain at bobl anabl yn cael eu ‘cloi allan’ o gymdeithas yn ystod y pandemig, gyda’u hawliau wedi’u herydu ymhellach. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad “Cloi Allan: Rhyddhau bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru y … Continued

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Our Partners & Funders