Cyflwyno Aled Blake, ein Swyddog Polisi a Chyfathrebu newydd

Rydym yn falch iawn o groesawu Aled Blake i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ofyn i Aled ddweud wrthym amdano’i hun a’i rôl newydd fel Swyddog Polisi a Chyfathrebu. Ymunais ag Anabledd Dysgu Cymru ym mis Tachwedd, gan weithio gyda Sam a Kai ar bolisi a chyfathrebu. Rwyf newydd gwblhau gradd meistr mewn gwleidyddiaeth … Continued

Ffrindiau Gigiau Cymru yn datblygu ei ymgysylltiad gwirfoddoli yng Ngogledd Cymry diolch i grant Gwirfoddoli Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn £50,000 dros 2 flynedd gan grant Gwirfoddoli  Cymru CGGC i recriwtio, hyfforddi, cefnogi a gwella profiad gwirfoddolwyr ar gyfer Ffrindiau Gigiau Cymru yng Ngogledd Cymru. Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn gynllun cyfeillio arloesol sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol trwy baru oedolion ag anabledd … Continued

Yn cyflwyno Julie Jenkins, ein Cydlynydd Cymorth Gweinyddol newydd

Mae’n bleser gennym groesawu Julie Jenkins i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Gwnaethon ni ofyn i Julie ddweud wrthon ni amdani hi ei hunan, a’i rôl newydd fel Cydlynydd Cymorth Gweinyddol. Ymunais i ag Anabledd Dysgu Cymru ym mis Gorffennaf. Rwy’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm, gan ddarparu cymorth gweinyddol, yn helpu i redeg y … Continued

Labeli – drwg angenrheidiol neu faner sy’n grymuso?

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan wedi cytuno i barhau i ddefnyddio’r term ‘pobl ag anableddau dysgu’. Maent wedi ysgrifennu’r erthygl yma sy’n ysgogi’r meddwl am pam ei bod yn bwysig bod pobl ag anableddau dysgu yn dewis eu labeli eu hunain. Ysgrifennwyd yr erthygl gan Tracey Drew, Cynghorydd Ymgysylltu Aelodaeth, ac mae wedi ei … Continued

Pam rydyn ni’n mynd i Pride

Rydyn ni yn ymuno â Pride Cymru eleni i ddathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn mynd oherwydd ein bod yn gwybod na allwn byth gymryd ein hawliau yn ganiataol. Rydyn ni yn poeni’n benodol y gallai pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig sy’n drawsryweddol golli mwy o hawliau. Mae’r erthygl yma … Continued

Iechyd rhywiol a pherthnasoedd: Hawdd ei Ddeall Cymru a Chwmni Addysg Rhyw i gynhyrchu adnoddau newydd hawdd eu deall

Yn gynharach eleni gofynnodd ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru pa wybodaeth hawdd ei deall oedd ei hangen yng Nghymru, gydag addewid i gynhyrchu adnoddau newydd i lenwi’r bylchau pwysicaf. Gofynnodd mwyafrif yr ymatebion am wybodaeth ynghylch iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Yn dilyn hyn, gall Hawdd ei Ddeall Cymru gyhoeddi y byddant yn gweithio gyda … Continued

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Ein partneriaid a'n cyllidwy