Canllawiau Coronafeirws newydd i oedolion â Syndrom Down
Gwybodaeth ynghylch pam mae oedolion â Syndrom Down wedi’u hychwanegu at y rhestr o bobl sy’n agored iawn i niwed yn glinigol. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu hystyried fel rhai sydd mewn mwy o berygl o glefyd coronafeirws. Mae Prif Swyddogion Meddygol pedair gwlad y DU wedi cytuno ar y penderfyniad. … Continued