Rydym yn chwilio am berson ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid nesaf Cymru
Y dyddiad cau wedi’i ymestyn i ddydd Llun 11 Tachwedd 2024
Os ydych am wneud cais, rhaid i chi fod rhwng 11 a 17 oed ar 25 Tachwedd 2024.
Mae’n rhaid i chi fyw yng Nghymru neu fynd i’r ysgol neu goleg yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am berson ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth sydd:
- yn gallu gwrando ar eraill
- yn dda am gyfathrebu (gan ddefnyddio eu ffordd eu hunain o gyfathrebu)
- gofyn am gefnogaeth os bydd angen
- meddu ar sgiliau pobl dda
- yn gallu bod yn ddibynadwy gyda’r gefnogaeth gywir.
Peidiwch â phoeni os oes pethau nad ydych yn siŵr amdanyn nhw neu efallai y bydd angen hyfforddiant arnoch – gallwch wneud cais o hyd.
Os cewch eich dewis, byddwn yn eich cefnogi i sicrhau y gallwch gymryd rhan lawn yn Senedd Ieuenctid Cymru.
Beth fydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ei wneud?
Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn rhedeg am 2 flynedd rhwng Ionawr 2025 a Rhagfyr 2026.
Cynhelir cyfarfodydd bob 6-8 wythnos. Bydd rhai o’r rhain ar-lein a bydd rhai ohonynt wyneb yn wyneb.
Bydd 3 chyfarfod preswyl llawn yn Senedd Ieuenctid Cymru hefyd. Mae’r rhain fel arfer yn cael eu cynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Bydd cyfanswm o 60 o aelodau. Byddant yn llais i bobl ifanc ledled Cymru, yn darganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw ac yn gweithio gyda’i gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol.
Os cewch eich dewis, byddwn yn eich cefnogi yn seiliedig ar eich anghenion. Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn talu am eich trafnidiaeth a’ch llety.
Gallwch ddarganfod mwy am Senedd Ieuenctid Cymru ar eu gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch samantha.williams@ldw.org.uk.
Sut i wneud cais
Cam 1
Gallwch wneud cais mewn tair ffordd. Gallwch anfon atom:
- fideo ddim mwy na 3 munud neu
- recordiad sain heb fod yn hirach na 3 munud neu
- hyd at 500 gair o ysgrifennu – gellir ysgrifennu hwn â llaw neu ar gyfrifiadur.
Yn eich cais, dywedwch wrthym pam y byddech chi’n Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym am eich sgiliau.
Mae angen i ni wybod hefyd:
- eich enw llawn
- eich dyddiad geni
- ym mha ardal o Gymru rydych chi’n byw ynddi
- eich manylion cyswllt.
Anfonwch eich cais atom erbyn ddydd Llun 11 Tachwedd 2024 drwy e-bost at samantha.williams@ldw.org.uk neu drwy’r post at: Anabledd Dysgu Cymru, 41 Cilgant Lambourne, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG.
Gallwch ffonio Sam Williams ar 02920 681178 os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i wneud cais.
Cam 2
Bydd grŵp o bobl ifanc wedyn yn dewis hyd at 4 cais i fynd drwodd i’r cam pleidleisio.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal rhwng 15 Tachwedd a 22 Tachwedd.
Byddwn wedyn yn dweud wrth bawb a wnaeth gais os ydyn nhw wedi cael eu dewis ai peidio.
Yna byddwn yn rhoi gwybod i Senedd Ieuenctid Cymru enw’r person ifanc sydd wedi’i ddewis.
Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall fel hawdd ei ddeall, sain, braille neu brint mawr, cysylltwch â ni.