
Ymunwch ag Anabledd Dysgu Cymru a gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Mae’n rhad ac am ddim i ddod yn aelod neu’n gefnogwr i Anabledd Dysgu Cymru.
Dod yn aelod
Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, grwpiau, clybiau neu gymdeithasau.
Manteision dod yn aelod:
- Enwebu cynrychiolydd i ddod yn ymddiriedolwr ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.
- Pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB).
- Cael mynediad i gyfarfodydd grwpiau polisi.
- Gostyngiad o 10% ar docynnau i’n cynhadledd flynyddol.
- Gostyngiad o 10% ar archebion llogi ystafell.
- Derbyn ein e-gylchlythyr chwarterol Llais Update.
- Derbyn newyddion a gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n digwyddiadau yn ogystal â gwybodaeth berthnasol gan y sector anabledd dysgu.
Rhaid i Aelodau gytuno i gefnogi gwaith Anabledd Dysgu Cymru a llofnodi ein siarter hawliau a gwerthoedd allweddol.
Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru, gallwch wneud cais i ddod yn aelod o Anabledd Dysgu Cymru drwy lenwi’r ffurflen ar-lein yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu’n cael problemau wrth lenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk.
Dod yn gefnogwr
Gall unrhyw un gofrestru fel cefnogwr Anabledd Dysgu Cymru, gan gynnwys unigolion, sefydliadau, busnesau a grwpiau.
Fel cefnogwr, byddwch yn ymuno â’n rhestr bostio ac yn derbyn:
- ein e-gylchlythyr chwarterol Llais Update
- newyddion a gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n digwyddiadau
- newyddion a gwybodaeth berthnasol gan y sector anabledd dysgu.
I gofrestru fel gefnogwr, gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein yma neu gallwch gysylltu â ni ar 029 20681160 neu e-bostio enquiries@ldw.org.uk os ydych chi angen help i gofrestru.