Ymunwch â ni nawr
I gofrestru fel aelod neu gefnogwr, gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein isod neu gallwch gysylltu â ni ar 029 20681160 neu e-bostio enquiries@ldw.org.uk os ydych chi angen help i gofrestru.
Ymunwch ag Anabledd Dysgu Cymru a gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Mae’n rhad ac am ddim i ddod yn aelod neu’n gefnogwr i Anabledd Dysgu Cymru.
Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, grwpiau, clybiau neu gymdeithasau.
Rhaid i Aelodau gytuno i gefnogi gwaith Anabledd Dysgu Cymru a llofnodi ein siarter hawliau a gwerthoedd allweddol.
Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru, gallwch wneud cais i ddod yn aelod o Anabledd Dysgu Cymru drwy lenwi’r ffurflen ar-lein isod.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu’n cael problemau wrth lenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk.
Gall unrhyw un gofrestru fel cefnogwr Anabledd Dysgu Cymru, gan gynnwys unigolion, sefydliadau, busnesau a grwpiau.
Fel cefnogwr, byddwch yn ymuno â’n rhestr bostio ac yn derbyn:
I gofrestru fel aelod neu gefnogwr, gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein isod neu gallwch gysylltu â ni ar 029 20681160 neu e-bostio enquiries@ldw.org.uk os ydych chi angen help i gofrestru.