Elusen genedlaethol yw Anabledd Dysgu Cymru sydd yn cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.
Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff pobl anabl a’r sector gwirfoddol er mwyn inni allu creu Cymru well i’r holl bobl gydag anabledd dysgu.