Rydym wedi cael ymateb arbennig i’n Cynhadledd Flynyddol Pawb, sydd ar-lein ac yn rhad ac am ddim, ac mae’r tocynnau i gyd bron â gwerthu.
Mae archebu cyffredinol yn cau heddiw, ond bydd yn aros yn agored i bobl sydd ag anabledd dysgu. Rhowch y gair ar led gyda’ch teulu, cyfeillion, a phobl yr ydych yn gofalu amdanynt a’u cynorthwyo ynghylch ein cynhadledd gyffrous.
Ar ôl heddiw bydd y llefydd am ddim ar gael yn unig i bobl sydd ag anabledd dysgu
Mae hwn yn gyfle i bobl sydd ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn digwyddiad cynhwysol, hygyrch a hwyliog, sydd eleni yn trafod sut allwn leihau unigedd ac arwahanrwydd.
Mae’r holl sesiynau yn Pawb yn hygyrch, rhyngweithiol ac addas i bobl sydd ag anabledd dysgu, teuluoedd a gofalwyr, a phobl sy’n gweithio mewn iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae’r holl sesiynau am ddim i’w harchebu ac yn cynnwys popeth o ddysgu am brosiectau newydd a pholisïau newydd pwysig, i ffitrwydd, boreau coffi, drama a chanu.
Dyma flas ar rai o’n sesiynau rhad ac am ddim:
- Brew-it – bore coffi gyda Flintshire Do-It
- Datgelu’r seren roc oddi mewn ynoch gyda Rockbox – sesiwn ffitrwydd gan CanDo Hub
- Drama ryngweithiol gan Hijinx Theatre
- Dysgu gan Whizz Kidz in the lead! gan Carp Collaborations
#PawbADC
9 – 20 Tachwedd 2020
Sesiynau am 10 am, 11 am a 2 pm
Digwyddiad ar-lein