Roedd y Strategaeth yn golygu gwneud newidiadau enfawr oedd i gael effaith chwyldroadol nad oedd ei debyg yn Ewrop. Cyflwynwyd tair egwyddor syml.
Mae gan bobl gydag anabledd dysgu yr hawl i:
- patrwm normal o fywyd yn y gymuned
- cael eu trin fel unigolion
- derbyn help a chefnogaeth ychwanegol gan eu cymuned ac oddi wrth wasanaethau proffesiynol i’w helpu i wneud y mwyaf o’u potensial fel unigolion.
Roedd y grŵp bychan o ymgyrchwyr oedd yn ddylanwadol wrth bwyso dros yr achos am strategaeth yn cydnabod yr angen i ddatblygu trydydd sector bywiog oedd â llais cryf ar lefel cenedlaethol. Roedden nhw o’r farn y byddai yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid ac yn sicrhau bod egwyddorion y strategaeth yn cael eu trosi yn weithredoedd.
Credwn bod gan y trydydd sector gyfraniad pwysig i’w wneud. Mae’n gallu chwarae rhan hanfodol mewn helpu pobl gydag anabledd dysgu i siarad i fyny, mewn hyrwyddo hawliau gofalwyr teulu a darparu gwasanaethau creadigol, arloesol ac ymatebol.
Yn dilyn trafodaeth gyda’n haelodau, fe newidiwyd ein henw ym 1993 i Gynhadledd Sefydog Cyrff Gwirfoddol i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru (SCOVO).
Yna, yn 2005 cawsom deitl a brand newydd oedd yn haws ei ddefnyddio, ‘Anabledd Dysgu Cymru’.
Rydyn ni wedi parhau yn dryw i’n pwrpas gwreiddiol ac yn parhau i weithredu fel llais cryf ar ran ein haelodau.