Mae ein gwaith yn hyrwyddo llesiant, hawliau, amddiffyn a buddiannau pobl gydag anabledd dysgu o enedigaeth i henoed. Rydyn ni’n darparu ein gwaith craidd dan y faner ‘Pobl yr 21ain Ganrif’.
Mewn partneriaeth gyda chyrff eraill, rydyn ni’n darparu prosiectau sydd yn dangos arfer arloesol ac yn arwain at well ffyrdd o weithio. Mae ein prosiectau yn galluogi pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru a’r bobl sydd yn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau a pherthnasau newydd.