collage of various easy read booklets that have been made by Easy Read Wales - including subjects about benefits, disability rights in education, employment and perimenopauseMae 2024 wedi bod yn flwyddyn o dwf ac effaith i Hawdd Ei Ddeall Cymru. Cwblhaodd ein tîm gwybodaeth hygyrch dros 140 o brosiectau Hawdd eu Deall ar gyfer cleientiaid ledled Cymru a’r DU, gan gwmpasu pob agwedd ar fywyd – o gefnogi pobl gyda’u hiechyd, i gael mynediad at gyllid prosiect.

Yn 2024, lansiodd Hawdd Ei Ddeall Cymru 2 adnodd rhad ac am ddim hefyd:

Roedd yr uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:

  • Cael cais i ymuno â phanel arbenigol ar gyfer gweminar Llywodraeth y DU, sy’n cefnogi gweithwyr y llywodraeth i wneud gohebiaeth am ddyled yn hygyrch.
  • Hawdd ei Deall Cymru yn dod yn aelodau o weithgorau Safonau Hawdd eu Deall yn y DU ac yn Rhyngwladol. Mae’r grwpiau hyn yn rhannu arfer gorau ac yn datblygu canllawiau i helpu i wella ansawdd hawdd ei ddeall ledled y byd.

Mae gwaith hawdd ei ddeall diweddar ein tîm wedi cynnwys:

Dywedodd Laura Griffiths, rheolwr Hawdd Ei Ddeall Cymru: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl gleientiaid rydyn ni wedi gweithio gyda nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni’n edrych ymlaen at flwyddyn wych arall yn helpu sefydliadau i wneud eu gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch, ac rydym ni bob amser yn hapus i weithio gyda sefydliadau newydd. Cysylltwch â ni ar easyread@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160 i gael gwybod sut y gallwn ni wneud eich gwybodaeth yn hygyrch.”