Front covers in English and Welsh of Ask for Easy Read guide

Helpu pawb i gael gafael ar y wybodaeth maen nhw ei hangen.

Yn Hawdd ei Ddeall Cymru, rhan o Anabledd Dysgu Cymru, credwn y dylai pawb gael gwybodaeth maen nhw’n gallu ei deall. Dyna pam rydyn ni wedi creu’r canllaw Gofyn am Hawdd ei Ddeall – llyfryn ymarferol am ddim i helpu pobl i ddysgu beth ydy Hawdd ei Ddeall, pam ei fod yn bwysig a sut i ofyn amdano. Gallwch weld neu lawrlwytho’r canllaw yma.

Beth sy’n hawdd ei ddeall a pham ei fod yn bwysig?

Mae gwneud gwybodaeth bwysig yn hawdd ac yn hygyrch yn hanfodol. Mae Hawdd ei Ddeall yn trawsnewid gwybodaeth gymhleth i iaith glir, syml, gyda chefnogaeth lluniau defnyddiol a dyluniadau clir. .

Mae Hawdd ei Ddeall yn helpu pawb, yn enwedig pobl ag anabledd dysgu i:

  • Deall gwybodaeth bwysig.
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus.
  • Cymryd rhan lawn yn eu cymuned.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i bobl sydd yn:

  • Cael trafferth darllen.
  • Cael problemau cof.
  • Yn cael dogfennau traddodiadol yn llethol.
  • Yn dysgu Cymraeg.

Pan fydd y wybodaeth yn rhy gymhleth, gall pobl deimlo’n ddi-rym. Mae Hawdd ei Ddeall yn chwalu’r rhwystrau hyn, gan hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb.

 

Pam wnaethon ni greu’r canllaw hwn?

Trwy ein gwaith fe wnaethon ni ddarganfod nad yw llawer o bobl yn gwybod sut na ble i ofyn am Hawdd ei Ddeall. Yn aml, dydyn nhw ddim yn sylweddoli eu bod yn gallu ac y dylen nhw ofyn i wybodaeth gael ei darparu mewn ffordd sy’n gweddu orau iddynt.

Gall gwybodaeth swyddogol bwysig am iechyd, tai ac arian deimlo’n llethol ac yn frawychus. Weithiau mae cymaint o wybodaeth fel y gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Yn rhy aml, mae pobl yn colli gwybodaeth bwysig. Mae gwybodaeth aneglur yn gadael pobl yn ddryslyd, wedi’u heithrio, neu’n methu â gweithredu.

Yn aml, gall gwybodaeth sy’n hanfodol ar gyfer byw’n annibynnol fod yn anodd ei chyrchu, ei darllen a’i deall. Yn aml iawn, rhoddir gwybodaeth mewn fformat ffurfiol iawn, a gall fod yn anodd ei deall oherwydd:

  • Iaith gymhleth.
  • Testun bach neu ddyluniadau anniben.
  • Diffyg delweddau i helpu dealltwriaeth.

Mae ein canllaw yn helpu pobl i ofyn am Hawdd ei Ddeall pan fyddan nhw ei hangen. Mae’n annog sefydliadau i flaenoriaethu a gwerthfawrogi cyfathrebu hygyrch.

Beth sydd yn y canllaw?

Mae’r canllaw, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn esbonio:

  • Beth ydy Hawdd ei Ddeall.
  • Pam ei fod yn bwysig?
  • Sut a lle i ofyn amdano.
  • Enghreifftiau o’r mathau o adnoddau Hawdd ei Ddeall sydd ar gael

Gwybodaeth hygyrch i bawb

Credwn fod gan bawb yr hawl i wybodaeth hygyrch.

Mae’r canllaw newydd hwn yn grymuso pobl i eiriol drostynt eu hunain a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli sefydliadau i greu deunyddiau mwy cynhwysol.

Os oes gennych adborth neu syniadau ar gyfer adnoddau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn easyread@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.

Sut gallwn ni eich helpu chi

Yn Hawdd ei Ddeall Cymru, rydyn ni’n arbenigo mewn creu dogfennau Hawdd ei Ddeall o ansawdd uchel wedi’u teilwra i’ch anghenion. Mae ein ffeiliau digidol yn gyfeillgar i’r sgrin ac yn cefnogi hygyrchedd i bawb.

Rydyn ni hefyd eisiau helpu gwasanaethau a phobl sy’n darparu gwybodaeth i gynnig gwybodaeth well a mwy hygyrch i bobl.

Fel aelod o’r Grŵp Safonau Hawdd ei Ddeall y DU, rydyn ni’n datblygu canllawiau a fydd yn helpu darparwyr gwybodaeth i ddeall:

  • Beth ydy Hawdd ei Ddeall
  • Sut beth ydy Hawdd ei Ddeall da
  • Rheolau ac egwyddorion sylfaenol Hawdd ei Ddeall.

Rydyn ni hefyd yn cynnig hyfforddiant, canllawiau ac adnoddau am ddim i helpu pobl wneud eu gwybodaeth yn fwy hygyrch. Gallwch ddod o hyd i’n hadnoddau am ddim yma.

Diolch am eich cefnogaeth

Ni chafodd y prosiect hwn unrhyw arian allanol.

Fe’i hariannwyd yn gyfan gwbl trwy gefnogaeth ein cleientiaid, y mae eu hymddiriedaeth yn ein gwasanaethau yn ein galluogi i greu adnoddau am ddim i bobl ag anabledd dysgu. Diolch i’n holl gwsmeriaid am ein helpu i wneud gwahaniaeth.

 Lawrlwythwch y canllaw Gofyn am Hawdd ei Ddeall heddiw a’i rannu’n eang i ledaenu’r gair!

Am ddyfynbris am ddim neu i ddysgu mwy am ein gwasanaethau Hawdd ei Ddeall, e-bostiwch ni ar easyread@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwybodaeth yn haws i bawb a chreu byd mwy cynhwysol.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.