Rydym yn falch iawn o groesawu 6 ymddiriedolwr newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr: Adele Rose-Morgan, Georgia Miggins, James Tyler, Jonathan Griffiths, Lynne Whistance, a Nadine Honeybone.
Mae ein hymddiriedolwyr angerddol ac ymroddedig yn gyfrifol am reoli Anabledd Dysgu Cymru. Maen nhw yn ein helpu i osod ein cyfeiriad strategol i gyflawni ein cenhadaeth i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi.
Rydym wedi ymdrechu’n barhaus i gyflawni bwrdd amrywiol o ymddiriedolwyr sy’n cynnwys ein haelodau, pobl ag anabledd dysgu a’r gymdeithas ehangach yn gyffredinol sydd â diddordeb yn ein gwaith ac eleni wedi denu nifer fawr o geisiadau. Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein hymddiriedolwyr newydd:
Adele Rose-Morgan
Mae Adele yn cynrychioli Joining the Dots, grŵp cymorth cymheiriaid ar-lein i rieni a gofalwyr, a sefydlodd Adele yn 2015. Gyda dros 35 mlynedd o brofiad yn y sector anabledd dysgu, mae Adele wedi neilltuo ei hamser i wirfoddoli a chydgynhyrchu gyda nifer o grwpiau a byrddau ledled de Cymru.
Dywedodd Adele: “Rwy’n hynod gyffrous i gefnogi Anabledd Dysgu Cymru i sbarduno newid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Rwy’n credu’n gryf mai addysg gynhwysol yw’r allwedd i wireddu’r weledigaeth hon.”
Georgia Miggins
Mae Georgia yn ymuno â’n bwrdd yn ffres o’i thymor 2 flynedd fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Dywedodd Georgia: “Mae fy mhrofiad byw o gael anabledd dysgu a niwroamrywiaeth yn golygu fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon y rhwystrau rwyf i ac unigolion eraill ag anabledd dysgu yn eu wynebu yn ein bywydau bob dydd. Rwy’n gwybod bod cael anabledd dysgu yn golygu ein bod yn cael ein gadael yn llawer rhy aml allan o drafodaethau a sgyrsiau pwysig a gwerthfawr sy’n ymwneud â’n hanghenion, ac yn aml iawn ychydig o fewnbwn a llais a gawn mewn penderfyniadau sy’n cynnwys ac yn effeithio ar ein bywydau a’n dyfodol.
“Fel ymddiriedolwr mae’n bwysig i mi fy mod yn rhoi llais i ystod amrywiol o bobl ag anabledd dysgu, a bydd hyn wrth wraidd yr hyn rwy’n ei wneud.”
James Tyler
Mae James yn cynrychioli Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, lle mae ar eu bwrdd cyfarwyddwyr. Mae James hefyd yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru ar hyn o bryd ac mae wedi gwasanaethu ar lawer o fyrddau eraill yng Nghymru fel llais i bobl ag anabledd dysgu. Mae’n cael ei gyflogi fel Hyrwyddwr Archwiliadau Iechyd Hygyrch i Bobl yn Gyntaf Sir Benfro, gan weithio ochr yn ochr â hyrwyddwyr yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Dywedodd James: “I mi, mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu y gallaf ddod i adnabod y staff a gwneud ffrindiau newydd, dysgu sut mae’r sefydliad yn gweithio a gwneud cysylltiadau newydd gydag aelodau eraill sy’n rhan o’r prosiectau, a hefyd bydd yr ochr ymgyrchu yn dangos i mi beth mae pobl eraill yng Nghymru am ei weld yn gwella yn y dyfodol.”
Jonathan Griffiths
Tan yn ddiweddar, Jonathan oedd Cyfarwyddwr Trawsnewid Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Llywodraeth Cymru. Cyn y swydd hon bu’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro ac yn gyn-Lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o fis Ebrill 2021.
Dywedodd Jonathan: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno fel Ymddiriedolwr yn Anabledd Dysgu Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r sefydliad a phawb sy’n ymwneud â gwneud Cymru’r ‘wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi’. Rwy’n gobeithio y gallaf ddod â’m profiad i rôl yr ymddiriedolwr a sefyll gyda’n gilydd i gynnal a gwarchod yr hawliau i oedolion ag anabledd dysgu.”
Lynne Whistance
Mae Lynne yn cynrychioli Pobl, lle mae hi wedi gweithio ers dros 20 mlynedd. Dywed Lynne mai ei llwyddiant mwyaf fu “galluogi person ifanc i fod yn ddigon medrus a hyderus i adael gofal 24/7 â chymorth i fyw’n annibynnol yn y dref yr oedden nhw wastad wedi bod eisiau byw ynddi heb unrhyw gymorth â thâl mwyach.”
Dywedodd Lynne: “Mae bod yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru yn gyffrous. Mae’n rhoi cyfle i mi fod yn rhan o gefnogi eraill i gyflawni dyheadau a gwylio sut mae mentrau’n datblygu. O fod mewn gofal cymdeithasol mae wedi rhoi cipolwg gwych i mi ar heriau heddiw i bobl ag anabledd dysgu ac mae bod yn rhan o’r ymddiriedolwyr yn fy ngalluogi i eiriol a chlywed llais y rhai ag anabledd.”
Nadine Honeybone
Ysbrydoliaeth Nadine yw ei mab Tommy. Yn 2 oed cafodd ddiagnosis o Awtistiaeth ac yn ddiweddarach Anableddau Dysgu Lluosog Dwys. Yn 2010 sefydlodd Lynne yr elusen The Autism Directory, a elwir bellach yn Autistic Minds, gyda’r nod o helpu unigolion awtistig a’u teuluoedd i gael yr help sydd ei angen arnynt.
Dywedodd Lyne: “Mae bod yn Ymddiriedolwr ADC yn rhoi’r cyfle i mi rannu fy ngwybodaeth a’m profiad o fy mywyd yn magu fy mab, a llywio’r systemau a’r sefydliadau sydd eu hangen i sicrhau ei anghenion am weddill ei oes. Hefyd i ddefnyddio fy mhrofiad busnes a’r trydydd sector er budd pawb y mae’r elusen yn eu cefnogi.”
Gallwch ddarganfod mwy am ein holl ymddiriedolwyr ar ein tudalen staff ac ymddiriedolwyr.