Mae’r Symud a Chyffrwdd Hoffus – y cwrs allweddol i gyfathrebu, yn delio gyda phwysigrwydd a blaengarwch gweithio gyda Chyffwrdd fel dull o gyfleu dealltwriaeth, diogelwch a seibiant o sylfaen o hoffter a gofalu sensitif i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cynnwys awtistiaeth.
Yn ystod y profiad undydd yma fe fyddwch yn dysgu am y niwrowyddoinaeth y tu ôl i bwysigrwydd cyffwrdd hoffus yn nhermau sut mae’r unigolyn yn addasu i’r amgylchedd/datblygiad seicolegol y plentyn/datblygiad ysgogol, gwybyddol a hoffus/datblygiad iaith ac ymddygiad iach a chymdeithasu priodol.
Nodau’r Cwrs:
Y nodau ydy rhoi sylfaen dda i chi mewn gweithio gyda Synnwyr Cyffwrdd yn ogystal â sbardun i dechnegau symud creadigol ar gyfer adeiladu ymddiriedaeth a pherthynas, i leddfu pryder a datblygu synnwyr o lawenydd. Gellir gweithredu’r sylfaen yma yn eich gwaith gyda phlant ac oedolion.
Ar gyfer:
Diben y cwrs hwn ydy cynorthwyo pob gweithiwr proffesiynol fel gweithwyr cefnogi, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, rhieni yn ogystal â seicolegwyr a therapyddion. Mae ar eich cyfer chi os ydych yn gofalu am rhywun yn y cartref neu fel swydd.
Am yr Hyfforddwr
Mae Karen Woodley yn Seicotherapydd Symudiad Dawns Cofrestredig ac yn Arolygydd Clinigol sydd yn gweithio gyda chynghorwyr seicotherapiwtig a’r proffesiynau iechyd. Mae ganddi gyfoeth o brofiad gyda chleientiaid sydd ag anableddau dysgu. Karen oedd y cydgysylltydd hyfforddi arweiniol a’r uwch arweinydd sesiwn yn Ymddiriedolaeth Torch lle bu’n trefnu, cyflwyno a darparu eu rhaglen hyfforddi achrededig, yn cynnal grwpiau rhieni a’u gweithdai undydd ar gyfer cyfathrebu drwy gyffwrdd.