Yn ôl adroddiad diweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae llawer o blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu “gadael i lawr yn sylfaenol” oherwydd nad ydyn nhw’n cael yr addysg mae ganddyn nhw hawl iddi.
Mae’r pwyllgor, sy’n cynnwys Aelodau o’r Senedd o sawl plaid wleidyddol, wedi bod yn ymchwilio i sut mae addysg yng Nghymru yn cael ei darparu i blant a phobl ifanc anabl. Gallwch ddarllen adroddiad llawn y pwyllgor yma.
Fe wnaeth y pwyllgor ganfod bod gwadu’r hawl sylfaenol hon i addysg y mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i’w chael, yn effeithio ar eu lles emosiynol a meddyliol, eu cyfleoedd mewn bywyd a’u cyrhaeddiad addysgol.
Ar ôl casglu tystiolaeth o bob cwr o Gymru, gwnaeth y pwyllgor gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith hefyd fel bod cyfleoedd addysg yn decach, a bod gan blant a phobl ifanc anabl yr un mynediad i’r system addysg ag unrhyw un arall.
Beth oedd yr adroddiad yn ei ddweud?
Daeth y pwyllgor i 5 casgliad yn ei adroddiad:
- Mae nifer sylweddol o hawliau plant a phobl ifanc i addysg fel sydd wedi’i nodi yn Erthyglau 28 a 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r plant a’r bobl ifanc hyn yn cael eu gadael i lawr yn sylfaenol.
- Gall gwadu hawl plant a phobl ifanc i addysg gael effeithiau gydol oes a phellgyrhaeddol ar eu lles emosiynol a meddyliol, yn ogystal â’u hiechyd corfforol. Gall effeithio ar eu cyrhaeddiad a’u cyfleoedd addysgol, a thrwy hynny greu rhwystrau iddynt rhag gallu gwneud dewisiadau sy’n gweddu orau i’w huchelgeisiau wrth iddynt ddod yn oedolion.
- Gall effaith gwadu hawliau plant a phobl ifanc fod yn anfesuradwy ar eu teulu, yn enwedig ar rieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd. Yn aml mae’n rhaid i deuluoedd ymladd dros hawliau sylfaenol, y mae teuluoedd plant a phobl ifanc nad ydynt yn anabl a/neu niwro-nodweddiadol yn eu cymryd yn ganiataol.
- Er bod rhywfaint o ddarpariaeth gynhwysol sy’n diwallu anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, mae’r ddarpariaeth hon yn dameidiog ac anghyson ledled Cymru. Mae heriau ychwanegol yn wynebu’r rhai sy’n manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
- Mae’r rhwystrau i ddarparu gofal plant ac addysg cynhwysol yn gymhleth ac yn rhyng-gysylltiedig. Mae rhai ohonynt yn eang iawn ac yn ymwneud â dulliau cymdeithasol o ymdrin ag anabledd a gwahaniaeth tra bod eraill yn eithaf ymarferol.
Mae’r casgliadau hyn wedi’u hategu gan restr o argymhellion i wneud addysg yn wirioneddol gynhwysol a hygyrch i blant a phobl ifanc anabl, gyda goblygiadau pwysig i Lywodraeth Cymru.
Pa effaith allai’r adroddiad ei chael?
Fel sefydliad, mae Anabledd Dysgu Cymru eisiau gweld diwedd ar wahanu yn y system addysg. Mae ysgolion arbennig yn chwarae rhan hanfodol mewn dysgu i gynifer o blant a phobl ifanc anabl ac rydym yn deall nerfusrwydd llawer o rieni wrth anfon eu plant i ysgolion prif ffrwd fel y maen nhw’n cael eu galw. Ar hyn o bryd, nid yw adnoddau mewn llawer o’r ysgolion hynny yn ddigonol.
Ond os ydym ni’n sefydlu system addysg wirioneddol gynhwysol sy’n cael ei hariannu’n iawn ac sydd â’r adnoddau cywir, yna gallwn adeiladu Cymru wirioneddol gynhwysol lle mae pawb yn cael cyfle i fyw bywyd da, annibynnol a hapus a lle mae rhwystrau i’r potensial hwnnw’n cael eu dileu.
Mae’r adroddiad hwn yn cefnogi’r farn hon ac yn nodi’n glir yr heriau sy’n bodoli i Lywodraeth Cymru, i ysgolion ac athrawon ac, yn bwysicaf oll, i ddysgwyr eu hunain wrth wneud i hynny ddigwydd. Mae angen newid radical, ond dim ond gyda newid o’r fath y gellir creu dyfodol cynhwysol.
Yr her go iawn nawr yw i Lywodraeth Cymru, i Weinidogion a’u gweision sifil, gymryd sylw o’r argymhellion hyn, i wrando ac i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd. Ni fydd yn ddigon da i’r adroddiad hwn gael ei roi ar silff i hel llwch, mae’n rhywbeth y dylai llunwyr polisïau ei dderbyn, i herio eu syniadau gan arwain at system addysg newidiol a chynhwysol.
Beth mae Anabledd Dysgu Cymru yn ei ddweud?
Mae ein Prif Weithredwr, Zoe Richards yn cefnogi’r adroddiad hwn a rhoddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ochr yn ochr ag Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Georgia Miggins a’r rhiant Adele Rose-Morgan fel rhan o’r ymchwiliad i gyflwr addysg plant a phobl ifanc anabl. Gallwch wylio’r sesiwn dystiolaeth yma.
Mae Zoe yn galw ar Gymru i sefydlu system addysg wirioneddol gynhwysol, gan roi cymorth o safon i blant wrth iddyn nhw dyfu a symud drwy ysgolion.
Dywedodd Zoe: “Mae gan yr adroddiad hwn y potensial i ddechrau’r newid yng Nghymru mae angen i ni ei weld, gydag effaith gadarnhaol ac effeithiol ar bolisi addysg yma.
“Mae hynny’n golygu gwelliannau i blant a phobl ifanc anabl. Dylai ein system ddysgu weithio i bawb, ni waeth pwy ydyn nhw. Ar hyn o bryd nid yw’n gweithio i bawb. Mae wedi’i wahanu, mae’n cael ei adnoddau mewn modd tameidiog gyda loteri cod post o ran darpariaeth. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da.
“Mae’n golygu nad oes gan rai rhieni plant anabl hyder yn aml y bydd y system yn gweithio i’w hanwyliaid, mae’n golygu nad yw plant yn cael tegwch y narpariaeth eu dysgu, ac yn fwy eang mae’n golygu nad ydym ni fel cymdeithas yn cyflawni ein dyletswyddau i greu cymunedau sy’n gydlynol ac yn feithringar, gan ddarparu cyfleoedd i ffynnu ni waeth pwy ydych chi, p’un a ydych chi’n anabl ai peidio.
“Nid yw addysg gynhwysol yn rhywbeth rydyn ni’n meddwl sy’n iawn i blant anabl, rydyn ni’n credu ei fod yn iawn i bawb. Mae gennym ni gyfle yng Nghymru i wneud i hynny ddigwydd, gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud hynny. Ond yn gyntaf bydd angen llawer iawn o ewyllys gwleidyddol ac arweinyddiaeth i ddechrau’r newid hwnnw.”