Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Meddygfeydd Hawdd eu Deall yng Nghymru
Medi 2024 | Canllaw i bobl hŷn.
Gofynnodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u canllaw newydd. Mae’n ymwneud â chael mynediad at a defnyddio meddygfeydd yng Nghymru ac mae’n amlinellu’r gwasanaethau sydd ar gael i gleifion hŷn.
Mae’r canllaw yn esbonio sut i ymuno â meddygfa, pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig, sut i wneud apwyntiadau, archebu meddyginiaeth a chael canlyniadau profion.
Mae’n ymdrin â hawliau cleifion, sut i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a sut i wneud cwynion.
Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r llyfryn Hawdd ei Ddeall.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.