a woman and a man choosing activities from a visual communication board

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bryderus iawn am y gostyngiad mewn gwasanaethau dydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyfarfod diweddar ein rhwydwaith Cysylltiadau Cymru daethom â phobl ynghyd i archwilio sut mae’r ddarpariaeth wedi newid ers y pandemig a beth mae’r newidiadau hynny wedi ei olygu i’r bobl sy’n eu defnyddio.

Sefydlwyd Cysylltiadau Cymru i ddod â phobl ynghyd i drafod sut y gallwn fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, y problemau, rhannu arfer da a chreu newid.

Ers Covid, ac oherwydd pwysau cynyddol ar gyllidebau awdurdodau lleol, mae llawer o wasanaethau dydd yng Nghymru wedi cael eu newid, eu lleihau neu eu dileu.

Beth a drafodwyd yn y digwyddiad?

Canfu’r digwyddiad Cysylltiadau Cymru lawer o bwyntiau ar gyfer gwella darpariaeth gwasanaethau dydd, ond hefyd datblygu syniadau ar gyfer optimistiaeth a chyfle i roi’r ddarpariaeth mae pobl ag anabledd dysgu  ei heisiau a’i hangen.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Symud y syniad am wasanaethau dydd i ‘wasanaethau bywyd’ yn lle hynny.
  • Defnyddio asedau cymunedol wrth sefydlu gwasanaethau.
  • Gwneud cydgynhyrchu’n ganolog i ddylunio darpariaeth.

Mae’r heriau yn y ddarpariaeth gwasanaeth dydd yn adlewyrchu problemau systemig eraill sy’n atal pobl ag anabledd dysgu rhag byw bywydau boddhaus a hapus lle mae ganddynt ddewis, llais a rheolaeth. Ymhlith y rhwystrau hynny mae diffyg hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus, bylchau mewn profiad o gydgynhyrchu yn y sector cyhoeddus, ac ymagwedd un maint i bawb at atebion ar gyfer gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu.

Er y gallai rhai gwasanaethau dydd traddodiadol fod yn gyfyngedig o ran caniatáu i bobl fynegi eu hunain, dysgu, datblygu sgiliau a darparu gweithgareddau ystyrlon, roedd llawer yn cynnig cyfleoedd i gysylltu a meithrin cyfeillgarwch. Mae colli gwasanaethau o’r fath ers Covid yn aml wedi cyflymu ymdeimlad o unigrwydd ac unigedd cymdeithasol i lawer o bobl ag anabledd dysgu.

Beth am gomisiynu?

Yn ôl canllawiau, dylai comisiynu gwasanaethau dydd gynnwys y bobl sy’n eu defnyddio, a dylai cydgynhyrchu fod yn rhan o hynny.

Canfu trafodaethau grŵp nifer o heriau yn y maes hwn:

  • Mae cyfyngiadau amser a chyllideb yn cyfyngu ar faint o gydgynhyrchu sy’n digwydd.
  • Mae angen mwy o ddysgu i sicrhau dealltwriaeth briodol o’r hyn yw cydgynhyrchu mewn gwirionedd.
  • Diffyg gwybodaeth i bobl ddarganfod beth sydd ar gael.
  • Nid oes gan lawer o bobl weithiwr cymdeithasol i eirioli ar eu rhan.
  • Mae’r gostyngiad mewn gwasanaethau dydd yn effeithio ar les teuluoedd.
  • Mae llai o oriau mewn gwasanaethau dydd i bobl ag anabledd dysgu wedi golygu cynnydd yn nifer y bobl sy’n profi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Mae pobl yn adrodd am lai o gyfranogiad mewn cyfarfodydd. Mewn un achos mae hyn oherwydd diffyg mynediad i drafnidiaeth, heb unrhyw opsiwn ar gyfer cyfarfodydd ar-lein yn lle hynny.

Mae angen diwygio gwasanaethau yn seiliedig ar gomisiynu a gydgynhyrchwyd i roi’r adnoddau mae pobl ag anabledd dysgu eu hangen i fyw bywydau da.

Mae darparu gwasanaethau dydd yng Nghymru yn glytwaith, gydag anghysondebau yn y ddarpariaeth ar draws awdurdodau lleol.  Mae’r pandemig wedi gwneud y gwahaniaethau hyn yn fwy difrifol.

Mae’n golygu bod anghenion pobl ag anabledd dysgu yn aml yn mynd heb eu diwallu, gyda’r dyhead o gael gwasanaethau a gydgynhyrchir yn dioddef oherwydd bod adnoddau yn lleihau.

I rai, nid yw gwasanaethau dydd yn briodol, i eraill maen nhw. Pan maen nhw’n cael eu cau, neu pan fydd newidiadau’n digwydd, dywedodd pobl nad oedd neb yn aml yn ymgynghori gyda nhw. Felly, mae penderfyniadau’n cael eu gwneud heb siarad â’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Pa bethau da sy’n digwydd nawr?

Er gwaethaf y pwysau ar adnoddau a chyllid llywodraeth leol, mae digon o arfer da yn digwydd.

Yn Sir y Fflint, er enghraifft, clywsom sut roedd gwasanaethau dydd wedi cael eu hallanoli 7 mlynedd yn ôl. Cynlluniwyd y gwasanaethau newydd trwy ymgysylltu â phob parti, gan adeiladu ar ddarpariaeth a gweithgareddau oedd yn bodoli yn ogystal ag ychwanegu opsiynau newydd fel trin gwallt a garddio. Mae’r newidiadau hyn wedi rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd a mwynhau mwy o amrywiaeth yn y pethau maen nhw’n eu gwneud.

Mae yna hefyd ymdeimlad bod y rhan fwyaf o wasanaethau dydd ond yn gweithredu rhwng 9-5 yn hytrach na chynnig hyblygrwydd yn eu horiau i gyd-fynd ag anghenion a dymuniadau pobl i gael cyfleoedd amrywiol, tra hefyd yn darparu’r pethau y mae pobl eu heisiau, yn hytrach na’r hyn y mae darparwyr yn credu sydd ei angen arnynt.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r drafodaeth oedd bod cydgynhyrchu o ansawdd da yn hanfodol wrth greu adnoddau a gwasanaethau a fydd yn diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.

Beth yw’r heriau?

Roedd pobl yn cytuno bod angen meddwl mwy am anghenion pontio’r cenedlaethau oherwydd yn aml nid yw gwasanaethau wedi’u cynllunio ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a phobl â diddordebau gwahanol. Mae’r heriau hyn yn adlewyrchu barn gwasanaethau dydd trwy lens draddodiadol o ddealltwriaeth o’r hyn y dylai’r gwasanaethau hyn ei gynnwys, yn hytrach na siarad â defnyddwyr a dysgu’r hyn y maent ei eisiau.

Yn ogystal â chysylltu â phobl eraill ag anabledd dysgu, dylai gwasanaethau dydd hefyd gysylltu â chymunedau, gan integreiddio ac ymgorffori pobl i’r lleoedd y maent yn dod ohonynt fel y gallant gyfrannu at lesiant y cymunedau hynny, ac ehangu dealltwriaeth o anabledd dysgu.

Beth ddywedodd awdurdodau lleol?

Roedd cydnabyddiaeth bod llawer o wasanaethau dydd wedi newid, yn dechrau newid neu, mewn rhai achosion, angen newid. Mae clytwaith y ddarpariaeth yn golygu bod llawer o wasanaethau dydd sy’n werth chweil ac yn rhoi opsiynau da i bobl ar gyfer sut maen nhw’n treulio eu hamser.

Weithiau gall hynny fod mewn canolfan ddydd, ar adegau eraill mae’n golygu rhoi ystod ehangach o opsiynau i bobl. Clywodd y rhwydwaith bod canolfannau dydd yn gallu bod yn rhy gaeth i amserlen ac yn gyfyngol yn hytrach na rhoi opsiynau hyblyg sy’n cyd-fynd â bywydau ac hanghenion pobl. Dywedodd cynghorau eu bod yn ceisio newid pethau er gwell ond eu bod yn gorfod gweithredu mewn amgylchedd ariannol anodd.

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru (ADSS Cymru) wedi nodi rhai heriau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau dydd yn sgil y pandemig:

  • Dylid adolygu gwasanaethau dydd, gofal seibiant a gwasanaethau seibiant byr.
  • Mae angen gwerthuso heriau, pwysau ac adnoddau’r gweithlu i ddeall sut y gall staff medrus alluogi newid, ond hefyd i nodi’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud hynny.
  • Beth yw’r cyfleoedd i gydweithio â chyflogwyr i ehangu’r ddarpariaeth gwasanaeth dydd?
  • Sut gall technoleg a thrafnidiaeth gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau dydd a pha adnoddau sydd ar gael?
  • Dylai egwyddorion cydgynhyrchu gael eu hymgorffori ym mhob cam o’r ddarpariaeth, gan wneud gwasanaethau’n effeithiol a sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau’n effeithlon.

Mae Mencap, ynghyd â’r Consortiwm Anabledd Dysgu y mae Anabledd Dysgu Cymru yn aelod ohono, wedi nodi cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu mabwysiadu ar wasanaethau dydd. Pwrpas yr argymhellion hyn yw adeiladu safon genedlaethol ar gyfer cydgynhyrchu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu dylunio a’u darparu’n gyson. Trafodwyd hyn yn y digwyddiad.

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • Safon ymgynghori genedlaethol.
  • Diffiniadau a safonau cenedlaethol ar gyfer cydgynhyrchu.
  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol a darparwyr i esbonio sut mae newidiadau i wasanaethau dydd wedi cael eu cydgynhyrchu.
  • Dylai effaith newidiadau i wasanaethau dydd ar bobl, eu teuluoedd a’u gofalwyr fod yn annatod pan wneir unrhyw newidiadau.

Ein barn ar wasanaethau dydd

Dywedodd Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru: “Roedd ein digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn gyfle i ddysgu am y pethau da sy’n digwydd mewn gwasanaethau dydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ond hefyd yr heriau.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld yw ei bod hi’n ymddangos bod gwahaniaethau yn y mathau o ddarpariaeth sydd ar gael, sut mae’r system wedi newid ers Covid a’r hyn sy’n cael ei weld fel arfer da mewn cydgynhyrchu.

“Mae digon o waith i’w wneud wrth ddatblygu gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu sy’n gweithio i bawb ac sy’n darparu gweithgareddau a chysylltiadau ystyrlon nad ydynt yn gweithredu yn ystod oriau swyddfa yn unig.

“Ein cynllun nawr yw adeiladu ar hyn a defnyddio’r egni o ddigwyddiad Cysylltiadau Cymru i roi llwyfan i ysbrydoliaeth a thrafodaeth bellach yng nghynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru yn ddiweddarach eleni.

“Rydym yn gwybod bod pwysau yn cael ei deimlo yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru ar hyn o bryd, ond rydym hefyd yn credu yng ngrym ein hymdrech ar y cyd i greu lle gwell i fyw i bobl ag anabledd dysgu.”