Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai Tracy Hammond yw Cadeirydd newydd ein bwrdd ymddiriedolwyr.Tracy standing with her 2 dogs on a clifftop.

Mae Tracy wedi gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu ers 30 mlynedd ac ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Arloesi KeyRing, lle mae hi wedi gweithio ers blynyddoedd lawer.

Mae Tracy yn byw yn Harlech ac mae’n teimlo’n angerddol am hawliau a bywydau pobl ag anabledd dysgu. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cymorth i bobl ag anableddau dysgu sy’n eu cael eu hunain yn y System Cyfiawnder Troseddol, ac mae’n teimlo’n angerddol am ddwyn straeon pobl sydd wedi cael eu gwasanaethu’n wael gan y system i sylw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Meddai Tracy:

“Helô, fy enw i yw Tracy Hammond, ac rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu Cymru.

“Rwy’n teimlo’n angerddol am weld pobl yn ffynnu a chael byw’r bywydau maen nhw am eu byw.  Dyma pam rwy’ wedi cyffroi gymaint am ein gweledigaeth i Gymru fod y lle gorau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio. Ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae rhan fach tuag at wireddu’r weledigaeth honno.

“Rwy’ hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â  hunaneiriolwyr, cefnogwyr, aelodau, staff,  gwirfoddolwyr a’m cyd-ymddiriedolwyr, a gweithio gyda nhw.

“Rwy’n gobeithio cwrdd â llawer o bobl cyn hyn, ond os ydych chi’n fy ngweld mewn un o’n cynadleddau ym mis Tachwedd, dewch lan i ddweud helô. Yn y cyfamser, rwy’n mynd i   gynefino â fy rôl newydd, ac rwy’n addo gwneud fy ngorau  i gefnogi’r sefydliad anhygoel hwn.”

Mae rhagor o wybodaeth am Tracy a’n hymddiriedolwyr eraill yma.