Llywodraeth Cymru – Pwy all gael Bathodyn Glas? – Hawdd ei Ddeall
Ebrill 2024 | Y rheolau ar gyfer Bathodynnau Glas yng Nghymru.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u llyfryn Bathodyn Glas. Mae’r Bathodyn Glas yn ei gwneud hi’n haws i bobl fynd i lefydd. Mae’n eu helpu i barcio yn agos i’r man lle mae angen iddynt fynd.
Mae’r llyfryn yn ymwneud â phwy all ac na all gael Bathodyn Glas yng Nghymru. Mae’n esbonio’r ffyrdd y gallwch wneud cais am Fathodyn Glas a’r hyn y gallwch ei wneud os yw’ch cyngor yn dweud na. Fe wnaethon ni lyfryn arall i fynd gyda’r un yma am yr hyn y gallwch chi ei wneud a beth sy’n rhaid i chi ei wneud pan fydd gennych Fathodyn Glas.
Gwnaethom hefyd fersiynau Saesneg Hawdd eu Deall o’r llyfrynnau. Mae pob un ohonynt yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r llyfryn Pwy all gael Bathodyn Glas?
Gallwch ddarganfod mwy am y Bathodyn Glas gan eich cyngor lleol.
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas yma.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.