Senedd Ieuenctid Cymru – Adroddiad Teithio Cynaliadwy – Hawdd ei Ddeall
Rhagfyr 2023 | Teithio Cynaliadwy – Beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am ffyrdd o deithio yng Nghymru.
Gofynnodd Senedd Ieuenctid Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad.
Gofynnon nhw i bobl 9 i 25 oed beth oedden nhw’n ei feddwl am deithio cynaliadwy. Teithio cynaliadwy yw teithio sy’n gwneud llai o niwed i’r amgylchedd. Mae’n drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
Roedd Senedd Ieuenctid Cymru eisiau deall beth sy’n atal mwy o bobl ifanc rhag teithio’n gynaliadwy. Gwnaethom greu arolwg Hawdd ei Ddeall am hyn yn gynharach yn 2023.
Mae’r adroddiad yn sôn am ganlyniadau’r arolwg a digwyddiadau eraill lle rhoddodd pobl ifanc eu barn. Mae’n sôn am y rhwystrau sy’n bodoli i ddefnyddio teithio cynaliadwy. Mae’n dweud beth mae Senedd Ieuenctid Cymru yn credu sydd angen digwydd er mwyn lleihau’r rhwystrau.
Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r adroddiad.
Gallwch ymweld â gwefan Senedd Ieuenctid Cymru i ddarganfod mwy.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.