A diverse group of people Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu i wneud Cymru y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi? Os ydych wedi ymrwymo i’n gwerthoedd ac mae gennych brofiad byw neu broffesiynol, yna gallai hyn fod yn gyfle cyffrous i chi.

Mae gennym 6 swydd wag ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer cynrychiolwyr o:

  • Sefydliad Gofalwyr Teulu
  • Sefydliad Darparwyr Cymorth i Deuluoedd
  • Sefydliad cyflogaeth â chymorth
  • sefydliad hunan-eiriolaeth
  • unigolion sydd â diddordeb.

Rydyn ni yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych chi yn:

  • person ag anabledd dysgu

a / neu

  • person o’r mwyafrif byd-eang.

Os ydych chi’n credu y gallai fod angen cymorth arnoch i fod yn ymddiriedolwr, gallwn helpu drwy sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi i baratoi ar gyfer cyfarfodydd fel y gallwch gymryd rhan yn llawn.

Am fwy o wybodaeth gweler isod:

Taflen bod yn ymddiriedolwr

Disgrifiad Swydd Ymddiriedolwr

Cynllun Strategol Anabledd Dysgu Cymru

Adroddiad Blynyddol Anabledd Dysgu Cymru

Sut i wneud cais:

Ffurflen Gais Ymddiriedolwyr 2024 – 2027

Os oes angen help neu fwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Joanne Moore ar 029 20681160 neu e-bostiwch joanne.moore@ldw.org.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15 Hydref 2024

Etholiadau’r Ymddiriedolwyr: Bydd ymddiriedolwyr newydd yn cael eu dewis gan ein haelodau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar 22 Hydref 2024.

Os hoffech fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, llenwch y Ffurflen Archebu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol erbyn 15 Hydref.