Llywodraeth Cymru – Adroddiad ar Wasanaethau Niwroddatblygiadol – Hawdd ei Ddeall
Mawrth 2023 | Adroddiad ar Wasanaethau Niwroddatblygiadol.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru inni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad ymchwil. Roedd yr adroddiad yn adolygiad o’r galw, y capasiti, a dyluniad gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru. Roedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddau gyflwr, awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a dau wasanaeth niwroddatblygiadol, Gwasanaethau ND Plant a’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS).
Cynhaliwyd yr ymchwil yn 2021 a 2022. Mae’r ddogfen yn ymdrin â’r hyn wnaeth y tîm ymchwil, yr hyn a ddysgon nhw, eu syniadau i wneud pethau’n well a nodau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau.
Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw. Mae’r ddau ganllaw ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrîn a thechnoleg gynorthwyol arall.
Gwasgwch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw.
Gallwch fynd i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.