Cyllidwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Diweddariad prosiect
Tachwedd 2023
Mae’r Prosiect Gwybodaeth am Frechu bellach yn dod i ben. Rydym yn falch o weld Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio 2 adnodd hygyrch newydd a fydd yn cefnogi pobl ag anabledd dysgu i gael eu brechlynnau.
Mae’r adnoddau’n seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd gennym yn ystod ein prosiect. Maent yn cynnwys fideo a chanllaw Hawdd ei Ddeall, wedi’i rannu’n 2 ran.
Fe wnaethom ddewis creu fideo, gyda chefnogaeth canllaw Hawdd ei Ddeall oherwydd bod pobl wedi dweud wrthym fod cael gwybodaeth fel hyn yn fwy hygyrch.
Mae’r adnodd fideo yn dangos stori gymdeithasol gadarnhaol am berson ag anabledd dysgu, gyda chefnogaeth gofalwr, yn mynd am eu brechlyn ffliw blynyddol. Nod y fideo yw dangos i bobl nad yw cael brechlyn yn broses frawychus, ac amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael.
Mynd i’r afael â phryderon a rhwystrau i frechu
Mae’r canllaw Hawdd ei Ddeall wedi’i rannu’n ddwy ran. Mae Rhan 1 yn esbonio beth yw brechlynnau, sut maent yn gweithio a pham eu bod yn bwysig. Mae’n cynnwys gwybodaeth fel pa gynhwysion sydd mewn brechlynnau, alergeddau, a sgîl-effeithiau cyffredin.
Mae Rhan 2 yn ymwneud â’r profiad o gael brechlyn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ganiatâd, cefnogaeth i fynd i’ch apwyntiad, addasiadau rhesymol, a sut i ofalu amdanoch eich hun ar ôl brechlyn.
Fe wnaethon ni greu’r adnoddau hyn i fynd i’r afael â rhai pryderon a rhwystrau cyffredin i frechu y soniodd pobl wrthym amdanynt yn ystod y prosiect. Dywedodd llawer o bobl a gymerodd ran yn y prosiect wrthym eu bod yn ofni cael eu brechu, yn ofni nodwyddau ac yn poeni am fynd yn sâl ar ôl brechlyn.
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl a gymerodd ran yn y prosiect nad ydyn nhw’n teimlo bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau gwybodus am frechlynnau. Roedden nhw’n teimlo ei bod hi’n bwysig cael negeseuon positif ynghylch brechlynnau, felly doedd pobl ddim yn mynd yn rhy bryderus amdanyn nhw.
Gobeithiwn y bydd yr adnoddau newydd yn cefnogi pobl ag anabledd dysgu i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch cael eu brechlynnau a helpu i leddfu rhai o’r pryderon a’r ofn y gall pobl eu teimlo.
Beth nesaf
Rydym yn cynnal gweithdai yng nghynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru ym mis Tachwedd 2023 i rannu’r adnoddau a dweud mwy wrth bobl am yr hyn rydym wedi ei ddysgu.
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r adnoddau fel rhan o’u hymgyrchoedd brechu ffliw blynyddol a bydd yn sicrhau bod yr adnoddau ar gael i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eu defnyddio yn ôl yr angen. Bydd yr adnoddau ar gael drwy gydol y flwyddyn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nesaf, hoffem weld adnodd ar gyfer staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal iechyd, o dderbynyddion mewn meddygfeydd i nyrsys anabledd dysgu, i’w hysbysu am addasiadau rhesymol a chefnogi pobl ag anabledd dysgu ym mhob apwyntiad gofal iechyd. Siaradodd llawer o bobl am y ffordd yr oeddent wedi cael eu trin yn ystod apwyntiadau iechyd, ac mae cael y gefnogaeth gywir ar waith yn rhan enfawr o p’un a yw pobl yn mynd i’w hapwyntiadau iechyd ai peidio.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith Hawdd ei Ddeall diweddar yma.
Diweddariad prosiect
Mehefin 2023
Rydym ni wedi ysgrifennu adroddiad am yr hyn y gwnaethom ni ei ddarganfod yn ystod gwaith ymgysylltu’r Prosiect Gwybodaeth am Frechu. Gallwch ddarllen mwy am yr hyn wnaethom ni ar y dudalen we hon isod.
Diolch i bawb a ddywedodd wrthym ni am eu profiadau a’u teimladau am frechu.
Fe wnaeth llawer o bobl siarad gyda ni am COVID-19 a’r cyfnod clo. Roedd hwn yn gyfnod anodd i lawer o bobl ag anabledd dysgu.
Mae llawer o bobl yn teimlo’n bryderus am fynd i apwyntiadau gofal iechyd a chael brechlynnau. Dywedodd llawer o bobl wrthym ni eu bod nhw’n poeni am gael eu trin yn frwnt, a’u bod nhw’n poeni am y boen o gael pigiad a sgil effeithiau posibl, fel dioddef o fraich boenus a theimlo’n sâl ar ôl brechlynnau.
Nid wnaeth llawer o bobl dderbyn gofal oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Dydyn nhw ddim yn cael addasiadau rhesymol, fel amser ychwanegol ar gyfer apwyntiadau, gwybodaeth mewn ffordd y gallant ei deall a thynnu sylw wrth gael pigiad.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gwnaethom ni ei ddysgu yn adroddiad y prosiect. Bydd hwn ar gael yn fuan.
Gallwch weld y daflen wybodaeth i gyfranogwyr, ffurflenni caniatâd, ffurflenni monitro cydraddoldeb a’r arolwg hawdd ei ddeall y gwnaethom ni eu defnyddio ar gyfer y prosiect hwn drwy glicio ar y botwm isod:
Ffurflenni ac arolwg y prosiect (Dolen Google Drive)
Beth sy’n digwydd nesaf?
Rydym ni’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu fideo sy’n dangos profiad brechlyn cadarnhaol, canllaw hawdd ei ddeall ar frechu ac adnodd ar gyfer staff gofal sylfaenol, gofalwyr a gweithwyr cymorth gydag awgrymiadau ar gyfer cefnogi pobl i gael brechlyn.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen we hon pan fydd yr adnoddau ar gael.
Darllenwch ganllaw hawdd ei ddeall am y Prosiect Gwybodaeth am Frechu a chymryd rhan (PDF)
Rydyn ni yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella’r wybodaeth mae pobl ag anabledd dysgu yn ei dderbyn am frechlynnau. Er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau gwybodus am frechlynnau a chael brechlynnau.
Brechlyn ydy’r ffordd rydyn ni’n brechu rhywun i’w diogelu nhw rhag clefydau penodol.
Mae brechlyn yn feddyginiaeth sydd yn helpu eich corff i ymladd clefydau i’ch cadw chi’n ddiogel rhag mynd yn sâl iawn.
I wneud i hyn ddigwydd rydyn ni yn gweithio ar brosiect newydd gyda 2 o dimau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru – Rhaglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy a’r Tîm Anabledd Dysgu yn Gwelliant Cymru. Fe fydd y prosiect ynl:
- Darganfod beth mae pobl gydag anabledd dysgu yn feddwl am frechlynnau a chael brechlynnau
- A defnyddio beth rydyn ni wedi ei ddysgu i greu gwybodaeth sydd yn helpu pobl gydag anabledd dysgu i wneud dewisiadau gwybodus.
Fe fydd y proesiect yma yn edrych ar frechlynnau plentyndod, brechlynnau sydd yn cael eu rhoi ar oed arbennig, y brechlyn ffliw a’r brechlyn COVID-19.
Ochr yn ochr â’r arolwg mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trefnu 2 arolwg, sydd ar gael tan ddydd Gwener 24ain Chwefror::
- Arolwg i ofalwyr pobl gydag anabledd dysgu.
- Arolwg i gyrff sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu.
Nod y prosiect yma
Rydyn ni eisiau darganfod:
- Beth mae pobl yn ei wybod ac yn ei feddwl am frechlynnau.
- Os ydy pobl yn poeni am gael eu brechu neu i gael brechlynnau ac os felly, beth sydd yn gwneud iddyn nhw boeni.
- Beth sydd yn helpu pobl i gael eu brelynnachu.
- Pa wybodaeth sydd ar gael i bobl am frechlynnau. Ac o lle mae pobol yn cael eu gwybodaeth.
- Sut fyddai pobl yn hoffi cael gwybodaeth am frechlynnau.
Fe fyddwn ni yn defnyddio beth rydyn ni wedi ei ddysgu i wneud gwybodaeth yn hawdd ei ddeall i helpu pobl gydag anabledd dysgu i wneud penderfyniadau gwybodus.
Beth wnaethom ni
Trwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth 2023, fe wnaethom ni wneud y canlynol:
- Cynnal 4 grŵp ffocws ar gyfer pobl ag anabledd dysgu wyneb yn wyneb.
- Cynnal 2 grŵp ffocws ar-lein ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a fydd yn digwydd ar-lein.
- Cyfweld â theuluoedd a gofalwyr di-dâl, a phobl sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
- Gofyn i bobl ag anabledd dysgu lenwi arolwg hawdd ei ddeall ar-lein.
Grŵp llywio prosiect
Mae gennym ni grŵp llywio prosiect fydd yn goruchwylio gwaith y prosiect yma. Mae’r grŵp llywio yn cynnwys:
- Pobl gydag anabledd dysgu
- Staff o Anabledd Dysgu Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Pobl sydd yn gwneud ymchwil
- Pobl sydd yn gweithio gyda phobl gydag anabledd dysgu.
Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’n canfyddiadau
- Fe fyddwn ni yn gweithio gyda’n grŵp llywio i gytuno ar beth rydyn ni wedi ei ddarganfod ac ysgrifennu adroddiad am beth rydyn ni wedi ei ddysgu.
- Fe fyddwn ni yn nodi pa fath o wybodaeth mae pobl gydag anabledd dysgu yn ei hoffi. Er enghraifft, posteri, fideos neu daflenni.
- Yna fe fyddwn ni yn gweithio gyda phobl gydag anabledd dysgu i greu adnoddau gwybodaeth i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am frechlynnau.
Rhagor o wybodaeth
Fe fyddwn ni yn diweddaru’r wefan yma gyda newyddion diweddaraf am y prosiect.
Am unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch gyda Laura Griffiths, Anabledd Dysgu Cymru:
Ebost: laura.griffiths@ldw.org.uk
Ffôn: 029 2068 1160
I gael gwybodaeth am frechlynnau yng Nghymru ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru os gwelwch yn dda.