Lansiodd Cymru yr ail Senedd Ieuenctid ym mis Ionawr 2022 ac Anabledd Dysgu Cymru yw un o’r cyrff partner sydd yn cefnogi pobl ifanc anabl i gael llais.
1 Ionawr 2022 – 31 Rhagfyr 2023. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru am ail dymor fel corff partner. Fe fyddwn yn cefnogi Georgia a Tegan i siarad yn y Senedd Ieuenctid ar ran pobl ifanc anabl eraill yng Nghymru.
Pleidleiswyd gan pobl ifanc
Mae 60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.
Etholwyd 40 ohonynt gan bobl ifanc a bleidleisiodd yn etholiad y Senedd Ieuenctid ym mis Tachwedd 2021. Mae’r 20 arall wedi’u hethol gan bobl ifanc o sefydliadau partner. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o fod yn un o’r sefydliadau yma.
Drwy roi’r senedd at ei gilydd fel hyn, roeddem yn gallu sicrhau bod gennym gynrychiolaeth o grwpiau amrywiol o bobl Ifanc.
Ei rhedeg gan bobl ifanc
Pobl ifanc sy’n dewis y materion a godir gan Senedd Ieuenctid Cymru. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan y bobl ifanc rydych chi wedi’u dewis i fod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn tynnu sylw at y materion sy’n bwysig i chi ac yn eu trafod ar lefel genedlaethol.
Cesglir barn pobl Ifanc eraill o bob cwr o’r wlad a chydweithio â’r rhai sydd â’r grym i wneud newidiadau.
Sut y bydd y Senedd Ieuenctid yn gweithio
Byddwn yn treulio pob tymor dwy flynedd o’r Senedd Ieuenctid Cymru yn:
- Grymuso pobl ifanc Cymru i drafod a chodi ymwybyddiaeth ohonynt a’u trafod.
- Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli eu barn a gweithredu ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
- Gweithio gyda pobl ifanc yng Nghymru, a rhannu beth mae’r Senedd Ieuenctid yn ei wneud am y materion y maen nhw wedi codi.
Ein Haelodau Senedd Ieuenctid Cymru
Georgia Miggins – Aelod Senedd Ieuenctid Cymru
Mae Georgia yn 17 oed. Mae’n awtistig ac yn credu’n angerddol am godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymysg merched a chynyddu cynrychiolaeth pobl anabl mewn cymdeithas. Dywedodd Georgia, “Rydw i’n gwybod pa mor bwysig ydy i rhywun gydag anableddau deimlo eu bod wedi eu hysbrydoli a chael eu cynrychioli pan maen nhw’n gweld rhywun fel fi sydd ag anabledd fel nhw yn y rôl yma yn Senedd Ieuenctid Cymru”. Mae hefyd yn awyddus i godi materion am iechyd meddwl a diffyg cyfleoedd hamdden addas i bobl ifanc.
Tegan Skyrme – Aelod Senedd Ieuenctid Cymru
Mae Tegan, 15, yn dod o Sir Benfro ac mae eisiau sicrhau bod pobl ifanc sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn cael llais. Mae nam ar olwg Tegan ac mae’n teimlo’n angerddol dros gynrychioli hawliau pobl ifanc anabl. Yn ei fideo ymgeisio dywedodd Tegan, “Rwyf yn gwybod yn rhy dda sut deimlad ydy peidio cael digon o’r gefnogaeth gywir mewn ysgolion a hefyd mewn bywyd o ddydd i ddydd. Rwy’n gwybod hefyd sut brofiad ydy cael fy nhrin yn wahanol oherwydd fy anabledd a hefyd am fod yn aelod o’r gymuned LHDTQ+, sydd yn grŵp arall y byddwn yn hynod o falch o’i gynrychioli.”
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â’r wefan Senedd Ieuenctid Cymru, neu siaradwch â Grace Krause o Anabledd Dysgu Cymru, ffoniwch 029 2068 1160 neu ebostiwch samantha.williams@ldw.org.uk.