Rydym yn falch o groesawu Taylor Florence yn ôl i’r tîm staff yn Anabledd Dysgu Cymru. Diolch i gyllid gan Kickstart, mae Taylor wedi ymuno gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebiadau fel ein Cynorthwy-ydd Cyfathrebiadau dan Hyfforddiant newydd.
Helo, fy enw ydy Taylor. Rydw i mor falch o fod yn ôl yn gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru. Cefais fwy o sioc y tro yma na’r tro diwethaf roeddwn i’n gweithio yma!
Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio ochr yn ochr gyda ychydig o gydweithwyr o’r tîm Polisi a Chyfathrebiadau fel Cynorthwy-ydd Cyfathrebiadau dan Hyfforddianr. Fe fyddaf yn eu helpu gyda thasgau, er enghraifft hyrwyddo a rhannu cynnwys i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth am faterion sydd yn effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu. Rydw i hefyd yn helpu’r tîm cyfathrebiadau drwy edrych ar sut rydyn ni’n cyfathrebu gyda phobl a gweld sut rydyn ni’n gallu gwella.
Mae llawer o bethau i’w gwneud, ond lleoliad 6 mis ydy’r rôl sydd yn cael ei gyllido gan y Cynllun KickStart, drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau. Fyddwn i ddim yn gweithio yn Anabledd Dysgu Cymru heb y cynllun yma, felly diolch i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Cyn fy swydd newydd, roeddwn yn gweithio yn Anabledd Dysgu Cymru fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol. Roeddwn hefyd yn intern i’r DFN Prosiect SEARCH Engage to Change.
Fel person niwrowahanol rwyf yn credu’n gryf mewn hawliau pobl gydag anabledd dysgu. Rydw i’n teimlo ei bod yn bwysig bod gan bob person anabl lais i’w glywed mewn dull agored a chefnogol. Yn anffodus mae hyn yn parhau yn ddiffygiol ac mae yna rwystrau, Er enghraifft, yn y gweithle lle mae canran fechan yn unig o bobl gydag anabledd dysgu sydd mewn cyflogaeth. Ond rydw i mor ffodus i gael cynlluniau ac offer fel Engage to Change a gwybodaeth hawdd ei ddeall sydd yn helpu pobl anabl i fyw bywydau gwell.
Yn fy amser rhydd rydw i’n hoffi ffotograffiaeth ac weithiau rydw i’n mynd am dro. Ond, ar hyn o bryd dim ond ar fy ffôn rydw i’n gwneud fy ffotograffiaeth. Fy niddordebau eraill ydy gemau, karaoke (dydw i ddim yn swynol) a gwrando ar gerddoriaeth.