Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o gyhoeddi bod yr holl adnoddau mewn Clir a Hawdd, ein llawlyfr poblogaidd i greu gwybodaeth hygyrch, ar gael am ddim.
Mae’r Llawlyfr Clir a Hawdd ar gyfer unrhyw un sydd, neu a ddylai fod, yn cynhyrchu gwybodaeth hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu. Fe fydd yn cefnogi cyrff o wahanol faint yn eu dealltwriaeth o wybodaeth hygyrch, pam ei bod yn bwysig i bobl gydag anabledd dysgu gael mynediad i wybodaeth y maen nhw’n gallu ei deall, a sut i gynhyrchu deunyddiau Hawdd ei Ddeall.
Fe fydd Clir a Hawdd o fudd i chi os ydych yn perthyn i grŵp Pobl yn Gyntaf lleol, corff mawr pobl anabl, adran gwasanaethau cymdeithasol, neu ddarparydd gwasanaethau preifat, fel banc
Mae’r llawlyfr Clir a Hawdd yn cynnwys:
- 2 ffilm fer am: Pam bod gwybodaeth hygyrch yn bwysig, a hanfodion hawdd ei ddeall
- 6 llyfryn – Meddwl, Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Newid, Dysgu Rhagor
- Gwriwich ef! Pecyn cymorth hawdd ei ddeall (i wirio ansawdd yr wybodaeth a gynhyrchir) a
- 2 set o ganllawiau i gynhyrchu Cymraeg hawdd ei ddeall.
Gallwch lawrlwytho’r llawlyfr Clir a Hawdd yma.
Cynhyrchwyd Clir a Hawdd gan Anabledd Dysgu Cymru, Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn 2012. Roedd yn rhan o brosiect ar hyrwyddo gwybodaeth hygyrch a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru.