Ar 31 Mai 2021 fe fydd yn ddeng mlynedd ers sgandal erchyll Winterbourne. Dadlennodd y sgandal y potensial o gam-drin pobl gydag anableddau dysgu sydd yn byw mewn Unedau Asesu a Thriniaeth. A’r peth mwyaf gwarthus oedd na wnaeth yr arolygiaethau sylwi ar y cam-drin.
Ers i raglen Panorama’r BBC ddarlledu’r rhaglen ar Winterbourne View, gwelwyd achosion proffil uchel pellach o gam-drin mewn lleoliadau gofal yn Lloegr fel yn achos Whorlton Hall yn Swydd Durham. Mae achosion pellach fel Mendip House yng Ngwlad yr Haf (lleoliad gofal preswyl) yn dangos y ffaith nad ydy’r problemau yma wedi cael eu cyfyngu i Unedau Asesu a Thriniaeth. Does dim gwersi wedi eu dysgu o Winterbourne.
Ar 14 Ionawr 2013, cyhoeddodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, ddatganiad gweinidogaethol yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau na fyddai sefyllfa debyg yn digwydd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Grŵp Cynghori ar Anabledd Dysgu a darpariaethau yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i gyflwyno fframwaith cyfreithiol clir ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru yn ogystal â chyflwyniad Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Ond, mae llawer o bobl gydag anableddau dysgu yn parhau i gael eu lleoli allan o sir ac allan o Gymru. Cyn belled ag y mae hyn yn wir, ni allwn ddweud yn bendant ‘nad oes yr un Winterbourne yng Nghymru’.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
- Gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru i olrhain y nifer o bobl gydag anabledd dysgu sydd yn cael eu gosod mewn unrhyw leoliad preswwyl y tu allan i’w cymunedau lleol neu y tu allan i Gymru.
- Ymrwymo i weithio gyda phartneriaid allweddol ar strategaeth i sicrhau ein bod yn gallu dod â phobl gydag anabledd dysgu sydd wedi cael eu rhoi mewn gwasanaethau preswyl allan ou hardaloedd yn ôl yn agos at eu teuluoedd a’u ffrindiau os mai dyma ydy eu dymuniad.
- Amlinellu pa warantau sydd ganddynt fod pobl gydag anabledd dysgu yn derbyn adolygiadau gofal rheolaidd a bod y rhain yn cael eu harwain gan Gymru
- Mesur pa fynediad sydd gan bobl gydag anableddau dysgu i wasanaethau eiriolaeth a sut mae’r wybodaeth yn cael ei fwydo i Lywodraeth Cymru.
- Darganfod faint o bobl gydag anableddau dysgu sydd â chynlluniau rhyddhau ac a oes cynlluniau digonol yn cael eu gwneud i symud pobl gydag anableddau yn ôl i’w cymunedau lleol.
- Ymrwymo i gyflogi pobl gydag anabledd dysgu a’u gofalwyr teulu mewn adolygiadau arolygu o leoliadau gofal.
Consortiwm Anabledd Dysgu
Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau trydydd sector cenedlaethol sy’n gweithio yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teulu. Mae’r aelodaeth yn cynnwys y Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cymorth Cymru, Cymdeithas Syndrom Down, Anabledd Dysgu Cymru, a Mencap Cymru.