Mae oedolion ag anabledd dysgu ledled y DU wedi gweld gostyngiad mawr yn y mynediad at rai gwasanaethau gofal a chymorth, megis archwiliadau iechyd blynyddol a chyswllt â gweithiwr cymdeithasol, yn ystod pandemig y coronafeirws.
Roedd dros 60% o bobl ag anableddau dysgu a oedd wedi gweld gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel mater o drefn cyn y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020 wedi gweld llai arnynt neu heb eu gweld o gwbl ers hynny, tra fod bron i hanner y bobl a oedd fel arfer yn cael archwiliad iechyd blynyddol heb dderbyn un ers cyn mis Mawrth 2020.
Roedd mwy na hanner y bobl ag anabledd dysgu oedd yn gweld gweithiwr cymdeithasol yn rheolaidd cyn y cyfyngiadau symud cyntaf heb weld un o gwbl ers cyn mis Mawrth 2020. Cafodd apwyntiadau traean o bobl eu canslo, tra bod gweithgareddau cymunedol, gwasanaethau dydd a chymorth seibiant wedi dod i ben ar gyfer bron pawb ag anableddau dysgu.
Daw’r canfyddiadau o adroddiad cyntaf astudiaeth fawr yn y DU i brofiadau pobl ag anabledd dysgu yn ystod y pandemig. Fe wnaeth sefydliadau anabledd dysgu a phrifysgolion o bob un o bedair gwlad y DU gyfweld bron i 1,000 o oedolion ag anabledd dysgu, mewn dwy garfan.
Yng ngharfan 1 fe wnaeth ymchwilwyr gyfweld 621 o oedolion ag anabledd dysgu. Yng ngharfan 2, fe wnaeth 378 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am brofiadau’r unigolyn yr oeddent yn ei gefnogi neu’n gofalu amdano. Roedd y rhain yn debygol o fod yn oedolion ag anableddau dysgu mwy difrifol i ddwys.
Canfyddiadau o Gymru
Ymunodd Anabledd Dysgu Cymru â Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru i gyfweld pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Yn yr erthygl hon rydym yn adrodd ar ganfyddiadau adroddiad llawn y DU. Byddwn yn dilyn hyn gan edrych yn fanwl ar ganfyddiadau Cymru yn ystod yr wythnos nesaf.
Gallwch weld adroddiad llawn y DU, uchafbwyntiau, a fersiwn hawdd ei deall o’r adroddiad, yma.
Heintiau, gwarchod, iechyd, a cholli rhywun agos i Covid-19
Ar draws y ddwy garfan roedd tua 5% o bobl ag anabledd dysgu wedi derbyn prawf cadarnhaol am coronafeirws, gyda 5% arall o bobl yn credu eu bod wedi cael Covid-19. (Y ffigur cronnol ar gyfer poblogaeth y DU, hyd at 28 Chwefror 2021, yw 6%). O’r rhai a oedd wedi dal Covid-19, neu’n amau eu bod wedi ei ddal, roedd tua 15% wedi eu derbyn i’r ysbyty oherwydd eu symptomau.
Dywedodd mwy na 10% o bobl ag anableddau dysgu bod rhywun sy’n agos atynt wedi marw oherwydd COVID-19.
Nododd dros hanner y bobl ag anableddau dysgu gyflyrau iechyd a oedd yn peri pryder os oedd ganddynt Covid-19 (51% yng ngharfan 1, a 67% yng ngharfan 2), gydag asthma ac epilepsi fel y cyflyrau iechyd mwyaf cyffredin.
Pan ofynnwyd iddynt am warchod, dywedodd 31% (carfan 1) a 58% (carfan 2) eu bod wedi gwarchod eu hunain ar ryw bwynt ers mis Mawrth 2020. Yng ngharfan 2, ni ddywedwyd yn ffurfiol wrth 30% o’r rhai a oedd yn gwarchod y dylent warchod eu hunain, ond roeddent yn dal i deimlo bod angen iddynt wneud hynny.
Yng ngharfan 2, dywedodd 30% o ofalwyr teuluol/staff cymorth cyflogedig fod iechyd corfforol y person maen nhw’n ei gefnogi wedi newid er gwaeth ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth 2020.
Yng ngharfan 1, dywedodd 12% o bobl ag anableddau dysgu eu bod yn gofalu am rywun yr oeddent yn byw gyda nhw.
Nododd y mwyafrif helaeth o’r rhai a gymerodd ran yn y ddwy garfan y bydden nhw, neu’r person yr oedden nhw’n gefnogi/gofalu amdano, yn cymryd y brechlyn COVID-19 pe bai’n cael ei gynnig iddynt.
Mynediad at wybodaeth a deall rheolau am Covid-19
Pan ofynnwyd pa mor hawdd oedd dod o hyd i wybodaeth dda a chywir am Covid-19, dywedodd 70% o’r rhai a gymerodd ran yng ngharfan 1 ei bod yn hawdd, a dywedodd 30% nad oedd yn hawdd. Dywedodd y mwyafrif llethol o’r rhai a gymerodd ran yng ngharfan 1 (85%) eu bod yn deall y rheolau am Covid-19 a chadw pellter cymdeithasol lle roedden nhw’n byw.
Cafodd y rhan fwyaf o bobl yng Ngharfan 1 wybod am newidiadau i reolau COVID-19 a gwybodaeth newydd drwy wylio’r teledu (76%), neu drwy siarad â’u ffrindiau a’u teulu (43%) neu weithwyr cymorth (35%).
Yng ngharfan 2, gofynnwyd i’r gofalwr teuluol neu’r cefnogwr cyflogedig ymateb o’u safbwynt eu hunain o gyrchu gwybodaeth gywir. Dim ond 43% oedd o’r farn ei bod yn hawdd dod o hyd i wybodaeth gywir am Covid-19. Fel gyda charfan 1, teledu (75%) oedd y ffordd fwyaf poblogaidd o ddod o hyd i wybodaeth, ond roedd gofalwyr teuluol/staff cymorth cyflogedig yng ngharfan 2 yn fwy tebygol o ddefnyddio gwefannau’r llywodraeth (67%) a radio (39%), o gymharu â phobl ag anableddau dysgu yng Ngharfan 1 (12% ac 16% yn y drefn honno).
Lles
Yng ngharfan 1, roedd dros 65% o bobl ag anableddau dysgu wedi teimlo’n ddig neu’n rhwystredig, yn drist neu’n isel, ac yn poeni neu’n bryderus o leiaf beth o’r amser yn y pedair wythnos cyn eu cyfweliad. Yng ngharfan 2 dywedodd dros 60% o’r cyfranogwyr fod y person maen nhw’n ei gefnogi/gofalu amdano wedi dioddef o les gwaeth ers dechrau’r cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020.
Yn ôl y rhai a gymerodd ran yng ngharfan 2, cafodd y bobl ag anableddau dysgu yr oeddent yn gofalu amdanynt/eu cefnogi brofiadau negyddol iawn yn ystod y pandemig. Rhai ymatebion cyffredin oedd eu bod wedi gweld bod y cyfyngiadau symud yn ddiflas, yn unig ac yn eu hynysu. Dywedodd cyfranogwyr eraill fod iechyd corfforol a meddyliol y person maen nhw’n ei gefnogi wedi dirywio a’u bod yn arddangos ymddygiadau sy’n heriol i ofalwyr teuluol/staff cymorth cyflogedig (e.e., niweidio eu hunain neu eraill).
Nododd gofalwyr yn arolwg carfan 2 fod eu rôl gofalu wedi effeithio ar eu hiechyd yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, yn fwyaf cyffredin oedd amharu ar gwsg (57%), teimlo’n flinedig (64%) a theimlo dan straen (65%).
Cyswllt â ffrindiau a theulu
Yng ngharfan 2 roedd gan dros 85% o bobl ag anableddau dysgu ryw fath o gyfyngiadau ymwelwyr lle roedden nhw’n byw, tra dywedodd dros 65% eu bod wedi cael effaith negyddol o ganlyniad i gyfyngiadau ymwelwyr. Roedd hyn yn arbennig o wir am bobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD) (74%) o gymharu â phobl heb PMLD (63%).
Yng ngharfan 1 dywedodd mwyafrif y bobl ag anableddau dysgu (72%) eu bod yn cadw mewn cysylltiad â phobl bwysig yn eu bywydau gymaint ag yr oeddent yn dymuno, gyda 92% yn dweud eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref.
Bwyd a meddygaeth
Yn y ddwy garfan, roedd cyfranogwyr yn fwyaf cyffredin yn cael help gyda siopa bwyd gan aelodau o’u teuluoedd (40% yng ngharfan 1, a 56% yng ngharfan 2). Ar draws y ddwy garfan dywedodd 1% o’r cyfranogwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd cael bwyd. Ychydig iawn o bobl (1% neu lai) oedd yn cael bwyd gan fanc bwyd. Dywedodd 5% o bobl ag anabledd dysgu yng ngharfan 1 eu bod wedi bod yn llwglyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf ond heb fwyta.
Mae nifer fach iawn o bobl yn y ddwy garfan (1%) yn ei chael hi’n anodd cael eu meddyginiaethau, ac roedd llai nag 1% o bobl yng ngharfan 2 nad oeddent yn cael meddyginiaeth o gwbl. Yn y ddwy garfan roedd yn gyffredin i bobl ag anableddau dysgu dderbyn meddyginiaethau gan deulu (25% yng ngharfan 1, a 53% yng ngharfan 2), neu eu derbyn wedi’u danfon o’r fferyllfa neu’r fferyllydd (38% yng ngharfan 1, a 24% yng ngharfan 2). Roedd pobl ag anableddau dysgu yng ngharfan 1 yn fwy tebygol o gael eu meddyginiaeth ar eu pennau eu hunain (28%), o gymharu â charfan 2 (4%).
Cyflogaeth a gwirfoddoli
O’r 32% o bobl ag anableddau dysgu yng ngharfan 1 oedd â swydd cyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth 2020, roedd 88% yn dal i fod mewn cyflogaeth (yn dal i weithio, ar ffyrlo, neu gyda’u swydd yn cael ei dal ar eu cyfer).
O’r 50% o bobl ag anableddau dysgu yng ngharfan 1 oedd yn gwneud gwaith gwirfoddol cyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth 2020, roedd 81% wedi cadw eu rôl fel gwirfoddolwr yn ystod y don hon o’r astudiaeth, hyd yn oed os nad oeddent yn gweithio ar hyn o bryd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd ail gam y cyfweliadau a’r arolygon yn dechrau ddiwedd mis Mawrth 2021 gydag ymchwilwyr yn siarad eto â phobl a gymerodd ran yn y cam cyntaf.
Rydym yn dal i obeithio y bydd ychydig o bobl newydd yn ymuno â’r astudiaeth. Cysylltwch â’r tîm ymchwil, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod, os ydych:
- Yn berson ag anableddau dysgu sy’n dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig
- Yn cefnogi person ag anableddau dysgu sy’n dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig ac na fyddai’n gallu cymryd rhan mewn cyfweliad ag ymchwilydd ei hun, neu
- Yn cefnogi person ag anableddau dysgu nad yw’n byw yn ei gartref teuluol ac na fyddai’n gallu cymryd rhan mewn cyfweliad ag ymchwilydd ei hun.
Rhagor o wybodaeth
Edward Oloidi, Prifysgol De Cymru, e-bostiwch edward.oloidi@southwales.ac.uk neu ffoniwch 01443 483 042
Karen Warner, Anabledd Dysgu Cymru, e-bostiwch karen.warner@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2086 1160.
Coronavirus and people with learning disabilities website
Learning Disability Wales website page about the Welsh study