Unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y cwrs fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau llawn i chi ar sut i ymuno gyda’r sesiwn.
Mae’r prosiect Engage to Change wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws Cymru ers 2016.
Mae Engage to Change yn cefnogi pobl ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth rhwng 16 a 25 oed i gyrraedd eu nodau mewn bywyd.
Rydyn ni’n helpu pobl ifanc sydd ddim mewn gwaith nac mewn addysg i gael y sgiliau maen nhw eu hangen i gael gwaith gyda chyflog.
Rydyn ni’n helpu cyflogwyr i ddeall a chefnogi anghenion pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Rydyn ni wedi gweld bod mwy o ddynion ifanc na menywod ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth yn cymryd rhan yn y prosiect Engage to Change.
Rydyn ni eisiau i ragor o fenywod ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth feddwl am gael gwaith gyda chyflog.
Rydyn ni hefyd eisiau i ragor o fenywod ifanc gymryd rhan yn y prosiect Engage to Change.
Ar 21 Ionawr rydyn ni’n cynnal digwyddiad ar-lein am ddim am Fenywod yn y Gwaith.
Fe fyddwn ni’n rhannu straeon menywod am sut mae cael swydd wedi newid eu bywydau.
Fe fydd gwybodaeth hefyd am sut mae’r prosiect Engage to Change yn gallu cefnogi menywod ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i ddarganfod gwaith.
Rydych chi’n gallu archebu eich lle am ddim gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Lleoliad: Ar-lein drwy Zoom
Dyddiad: 21 Ionawr 2021
Amser: 10-11.15am