Fe fydd yr hyfforddiant yma yn eich helpu i weithio a gweithredu mewn dull mwy cynhwysol drwy ddeall rhagor am bobl gydag anabledd dysgu a’r materion sydd yn effeithio arnyn nhw yn eu bywydau beunyddiol.
Mae’r cwrs yma’n cael ei arwain gan bobl gydag anabledd dysgu, ac fe fydd yn edrych ar brofiadau pobl gydag anabledd dysgu a sut mae gwasanaethau a chymdeithas yn effeithio ar eu bywydau. Fe fydd y cwrs yn eich helpu i edrych ar sut y gallwch chi gyfrannu i wneud yr effeithiau yma yn rhai cadarnhaol.
Fe fyddwch yn cael cyfle i
• clywed straeon pobl
• edrych ar eich barn a’ch agweddau chi eich hun
• dysgu am y rhwystrau y mae pobl gydag anabledd dysgu yn eu wynebu
• edrych ar sut y gallwch gael effaith gadarnhaol pan fyddwch yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu
Ar gyfer
Unrhyw un sydd yn dod i gysylltiad gyda phobl ag anabledd dysgu yn ystod eu bywyd gwaith, yn enwedig mewn lleoliadau cefnogi/gofal, ond mae’n berthnasol i bobl ym mhob sector yn cynnwys hamdden, manwerthu neu drafnidiaeth