Mae’r rhan fwyaf o bobl gydag anabledd dysgu yn dweud bod cyfeillgarwch a pherthnasoedd yn bwysig iddyn nhw ond mewn gwirionedd, mae nifer o bobl yn cael eu hunain wedi’u hynysu yn gymdeithasol ac yn wynebu rhwystrau rhag ffurfio a datbygu cyfeillgarwch a pherthnasoedd newydd.
Mae’n wybyddus bod perthnasoedd parhaol ac ystyrlon yn creu hapusrwydd a llesiant yn yr hir dymor ac eto mae nifer o wasanaethau cefnogi ac asiantaethau yn cael trafferth i alluogi’r rhai maen nhw’n gofalu amdanyn nhw i elwa oddi wrth yr agwedd mwyaf normal yma o fodolaeth.
Fe fydd y digwyddiad yma yn edrych ar sut y mae cyrff yn mabwysiadu dulliau newydd i helpu pobl gydag anabledd dysgu i ddatblygu eu bywyd cmdeithasol, gwneud ffrindiau a chael perthnasoedd.
Fe fydd cyflwyniadau ysbrydoledig a llawn gwybodaeth yn y digwyddiad a chyfle hefyd i edrych ar enghreifftau a materion yn fanylach mewn gweithdai llai.
Fe fydd mynychu’r digwyddiad yma yn rhoi syniadau a strategaethau i chi weithredu ar egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
- Llais a rheolaeth- rhoi’r unigolyn a’u hanghenion yng nghanol eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddyn nhw dros gyrraedd y canlyniadau sydd yn eu helpu i gyflawni llesiant.
- Atal ac ymyrraeth cynnar- cynyddu gwasanaethau ataliol oddi mewn i’r gymuned fel bod angen argyfyngus yn lleihau.
- Llesiant- cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chefnogaeth.
- Cydgynhyrchu- annog unigolion i gymryd mwy o ran yn nyluniad a darpariaeth gwasanaethau.