Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2020
Eleni bydd ein Cynhadledd Flynyddol ar thema unigrwydd ac arwahanrwydd. Bydd hyn yn rhan o’n sgwrs genedlaethol ar gyfer y flwyddyn 2020/21.
Bydd y digwyddiad:
- yn archwilio beth yw unigrwydd ac arwahanrwydd
- yn tynnu sylw at broblemau ac effeithiau unigrwydd ac arwahanrwydd
- yn arddangos yr hyn sy’n cael ei wneud i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru.
Rydyn ni am ddathlu gwaith da yn ogystal â chyfleu’r neges bod hon yn broblem ddifrifol i lawer o bobl.
Mae ein cynadleddau blynyddol bob amser yn fywiog a chynhwysol lle mae pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn cyfrannu ac yn cymryd rhan yn gyfartal. Ewch i’n tudalen cynhadledd 2019 i weld beth sy’n mynd ymlaen.
Fe fydd pethau ychydig yn wahanol y flwyddyn yma. Dydyn ni ddim yn gwybod pa mor ddiogel fydd hi inni gyfarfod mewn digwyddiadau mawr ym mis Tachwedd ac felly fe fydd y gynhadledd y flwyddyn yma yn cael ei chynnal ar-lein.
Gallwch ddarganfod mwy am y sesiynau yma
Y cynhadledd:
9 – 20 Tachwedd 2020
Ar lein
Archebion ar gau bellach.