Mae canfyddiadau digalon mewn adolygiad gofal cenedlaethol o 166 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru mewn ysbytai yn dangos bod pobl yn aml yn byw yno’n rhy hir, bod pobl yn cael gormod o feddyginiaeth a bod gormod o ddefnydd o arferion cyfyngol ar bobl y mae eu hymddygiad yn heriol.

Heddiw, fe wnaeth Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyhoeddi’r adolygiad gofal cenedlaethol hwn a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Edrychodd ar 166 o bobl ag anabledd dysgu sy’n cael gofal a thriniaeth iechyd mewn lleoliadau iechyd sy’n cael eu darparu neu eu comisiynu gan y GIG megis ysbytai diogel ac unedau asesu a thrin. Gwnaeth ddatganiad heddiw.

Ein barn ni

Rydym yn croesawu’r adolygiad hwn sy’n rhoi darlun cynhwysfawr o ofal a thriniaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu mewn lleoliadau iechyd.

Dywedodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru:

“Drwy’r Rhaglen Gwella Bywydau rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn cael cymorth drwy wasanaethau sy’n hyrwyddo bywydau iach gyda dewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Rydyn ni’n deall bod adegau pan fydd pobl a theuluoedd yn wynebu argyfwng a bod angen cymorth arbenigol meddygol, ond mae’n rhaid cyfyngu ar yr amser hwn a rhaid i ni weithio tuag at bobl sy’n byw eu bywydau y tu allan i leoliad meddygol. “

Ers i Anabledd Dysgu Cymru gael ei greu yn 1983, ar yr un pryd â’r Strategaeth Anfantais Feddyliol Cymru Gyfan chwyldroadol, rydym wedi gweithio i hyrwyddo hawl pobl ag anabledd dysgu i gael profiad o fywyd annibynnol llawn, ysgogol ac amrywiol ac i fwynhau holl fanteision a chyfrifoldebau bod yn ddinesydd yn eu cymuned.

Hoffai Anabledd Dysgu Cymru weld camau gweithredu o’r adroddiad hwn yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith gan gynnwys egluro’r cyfrifoldebau rhwng awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd a’r gwasanaeth arolygu ac, yn ail, egluro pwy sy’n gyfrifol yn gyfreithiol ac yn ariannol am fonitro gofal a chymorth ar gyfer pob unigolyn.

Canfyddiadau’r adroddiad

Er bod rhai meysydd o arfer da, fe wnaeth yr adroddiad ganfod bod angen mynd i’r afael â nifer o faterion ar frys. Mae’r adroddiad yn gwneud 70 o argymhellion.

Nid yw ysbyty yn gartref

Roedd cleifion yn aros mewn unedau ysbyty am gyfnod hir ac yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai pan y byddai wedi bod yn bosibl ystyried dewisiadau amgen yn y gymuned. Canfuwyd mai’r cyfanswm cyfartalog o amser oedd 5 mlynedd, gydag un claf yn aros am 49 mlynedd. Dim ond os nad oes ffyrdd eraill i’w trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.

Gor-ddefnyddio meddyginiaeth

Nid oedd gan 37% o’r cleifion oedd â phresgripsiwn am sefydlogyddion hwyliau unrhyw ddiagnosis sylfaenol nac eilaidd o salwch meddwl. Prif swyddogaeth meddyginiaeth felly yw atal ymddygiad yn hytrach na thrin cyflwr. Nid yn unig y mae’r feddyginiaeth hon yn amhriodol, mae’n atgyfnerthu agwedd negyddol bod anabledd dysgu yn gyflwr meddygol sydd angen ei reoli â chyffuriau. Ni ddylai meddyginiaeth fod yn ateb sydyn pan fydd angen therapi a chymorth yn y tymor hir ar unigolyn. Dylai fod mwy o staff therapi.

Gor-ddefnyddio arfer cyfyngol

Weithiau, mae angen ymyriadau cyfyngol pan fydd rhywun yn defnyddio ymddygiad sy’n herio. Ond fe wnaeth yr adolygiad ganfod llawer o achlysuron pan oedden nhw wedi cael eu defnyddio. Dylai arferion cyfyngol fod yn ddewis olaf. Dylai’r defnydd o arferion cyfyngol fod yng nghynllun cymorth y claf mewn ysbyty a dylai ddweud yn glir pam mae ei angen.

Pobl hŷn

Mae angen gwneud mwy ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio. Mae gan lawer o gleifion ag anabledd dysgu ddiagnosis arall fel dementia ac awtistiaeth. Mae angen yr amgylchedd cywir gyda staff profiadol.

Cynlluniau Gofal

Fe wnaeth adolygiad hwn ganfod nad oedd gan bob claf gynllun gofal yn ei le, ac nad oedd pob cynllun gofal wedi cael ei adolygu’n rheolaidd. Dylai fod gan bob claf gynllun gofal a chynllun cymorth ysbyty a ddylai gael ei ysgrifennu gyda’r claf a’i adolygu’n rheolaidd.

Gwrando ar gleifion

Yn gyffredinol, dywedodd pobl bethau da am eu gofal. Ond fe wnaethon nhw hefyd ddweud y bydden nhw’n hoffi i rai pethau fod yn wahanol. Dylai staff barhau i ofyn i gleifion sut y gellir gwella pethau ac yna gwirio sut maen nhw’n gwneud.

Trosglwyddo i’r gymuned

Fe wnaeth yr adolygiad hwn ganfod nifer sylweddol o gleifion a allai gael eu hystyried ar gyfer eu trosglwyddo i’r gymuned leol. Gall cleifion sydd wedi bod yn byw mewn ysbytai ers blynyddoedd lawer ddod i arfer â byw yno. Felly mae trosglwyddo yn gofyn am gynllunio gofalus a dylai gynnwys y person a’r teulu i’w helpu i baratoi.

Adroddiadau

Comisiynwyd yr Adolygiad Gofal Cenedlaethol hwn gan yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru, fel rhan o Raglen Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru – Gwella Bywydau gan Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol GIG Cymru.

Gwella Bywydau, Gwella Gofal: Adolygiad Gofal Cenedlaethol o Ddarpariaeth Cleifion Mewnol ag Anableddau Dysgu mewn Ysbytai sy’n cael eu rheoli neu eu comisiynu gan GIG Cymru, Chwefror 2020.

Hawdd ei Ddeall: Gwella Gofal: Gwella Bywydau: Sut brofiad yw hi i bobl ag anabledd dysgu sy’n cael gofal trwy’r ysbyty.

Datganiad Vaughan Gething