Heddiw ydy Diwrnod Cofio’r Holocost, cyfle i fyfyrio, dysgu a chofio’r holl bobl gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost, dan erledigaeth y Natsïaid, ac mewn hil-laddiadau eraill.
Mae 27 Ionawr 2020 yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz, y gwersyll garchar a difodi Natsïaidd lle cafodd 1.1 mliwn o bobl eu lladd yn ystod yr Holocost.
Roedd pobl gydag anabledd dysgu ymysg y grwpiau cyntaf o bobl i gael eu targedu yn ystod yr Holocost – yn cael eu stereleiddio a’u llofruddio dan raglen Aktion T4 y Natsïaid a laddodd tua 300,000 o bobl anabl.
Rydyn ni wedi casglu adnoddau hygyrch am yr Holocost i sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn cymryd rhan heddiw yn y cofio, yn dysgu ac yn addysgu eraill am ffeithiau hanfodol yr Holocost, yn ogystal â’i achosion a’i ganlyniadau.
Adnoddau ‘hawdd eu deall’ a hygyrch
Dydyn ni ddim yn ymwybodol ar hyn o bryd o unrhyw adnoddau hawdd eu deall am yr Holocost a fyddai’n gwbl hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu. Ond, mae yna rai adnoddau ‘hawdd eu deall’ da sydd wedi’u creu ar gyfer cynulleidfaoedd iau a fyddai’n gallu bod yn ddefnyddiol:
- Mae Berge Kanikanian o Ealing Mencap wedi cynhyrchu ffilm ddogfen fer am driniaeth pobl gydag anabledd dysgu yn rhaglen ewthanasia Aktion T4 y Natsïaid. Mae Berge yn esbonio’r rhesymau dros wneud y ffilm yn yr erthygl yma ar wefan Diwrnod Cofio’r Holocost .
- Erthygl BBC Ouch! am yr Holocost a phobl anabl.
- Mae BBC Newsround ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost wedi gwneud canllaw ‘hawdd ei ddeall’ i’r Holocost ar gyfer cynulleidfaoedd iau . Mae’n rhoi llinell amser o ddigwyddiadau, yn esbonio geiriau anodd ac yn rhoi dolenni i ragor o wybodaeth a digwyddiadau allweddol fel y Kindertransport.
- Mae’r Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost wedi cynhyrchu ‘straeon bywyd ‘hawdd eu deall’, yn cynnwys un o Anne Frank.
- Gwefan ydy The Holocaust Explained wedi’i dylunio ar gyfer pobl ifanc 13 – 18 oed, ond mae wedi cael ei hanelu i fod yn hygyrch i ddefnyddwyr eraill hefyd. Yn rhan o’r Wiener Holocaust Library, mae’n cynnwys fideos o rai sydd wedi goroesi yn adrodd eu straeon, gwybodaeth gefndir hanesyddol, cipolwg ar y ffydd Iddewig, llinell amser o ddigwyddiadau ac adran gefnogaeth i athrawon.
- Sefydlwyd y Shoah Foundation gan y cyfarwyddwr Steven Spielberg yn dilyn rhyddhau ei ffilm am yr Holocost, Schindler’s List. Maen nhw wedi ymrwymo i wneud cyfweliadau clyweledol gyda’r rhai sydd wedi goroesi a thystion yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Er bod yr wefan yn anodd i rai ei llywio, mae’r ffilmiau yn ddull hygyrch a phwerus o ddysgu a deall yr Holocost, a gellir eu gwylio ar wefan Shoah Foundation neu ar sianel YouTube.
Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw adnoddau hygyrch am yr Holocost – yn adnoddau hawdd eu deall, cynyrchiadau theatr neu ffilmiau hygyrch – hoffem wybod amdanyn nhw. E-bostiwch Kai Jones os gwelwch yn dda ar kai.jones@ldw.org.uk.