Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.
Ym mis Tachwedd 2019 yn ein cynhadledd flynyddol yn ne Cymru a gogledd Cymru roeddem yn falch o lansio ein strategaeth 5 mlynedd o Ebrill 2019 i Mawrth 2024.
Mae ein strategaeth newydd yn ganlyniad i flwyddyn gyfan o ymgynghori gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru, o bobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd, i weithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau sydd yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
Mae’r strategaeth yn nodi ein cynlluniau am y pum mlynedd nesaf, yn cynnwys tri maes blaenoriaeth (a gaiff ei adolygu ar ôl dwy flynedd):
- Iechyd a llesiant
- Addysg a
- Cyflogaeth
I gefnogi hyn fe fyddwn yn:
- cyd-greu gyda’n rhanddeiliaid ar draws Cymru gyfan
- cael mwy o bresenoldeb mewn rhagor o gymunedau yng Nghymru a
- gweithio gyda’r gymdeithas ehangach i leihau’r stigma y mae pobl gydag anabledd dysgu yn parhau i’w wynebu.
Dywedodd Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol:
“Gyda brwdfrydedd yr ydym yn lansio ein strategaeth 5 mlynedd ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru. Mae wedi bod yn flwyddyn o fyfyrio a gwthio ffiniau fel ein bod yn deall yn well y byd ansicr newydd rydym yn byw ynddo a sut mae pobl ag anableddau dysgu yn gallu byw mewn Cymru sy’n newid wrth wneud cyfraniadau gwerthfawr i gymdeithas heddiw.”
Mae’r cynllun ar gael yma i’w lawrlwytho:
Cynllun Strategol 2019 to 2024 Cymraeg
Cynllun Strategol 2019 i 2024 Cymraeg Hawdd ei Ddeall
Strategic Plan 2019 to 2024 English
Strategic Plan 2019 to 2024 Easy Read English
Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda enquiries@ldw.org.uk os hoffech dderbyn copi papur yn y post.